Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Ehif. CCXXIII. GORPHENA.F, 1865. [Llyfr XIX. HtMtyOÒW. DYFODOL METHODISTIAETH. GAN Y PARCH. DANIEL ROWLANDS, A.M., LLANIDLOES. I. Fe ddywedodd y Tywysog Albert, yn aniser rhyfel y Crimea, íbd llywodr- aetb.au cyfansoddiadol yn cael eu gosod ar eu prawf. Ar y pryd fe edrycbid ar y sylw gyda llygad angbaredig, ac fe wnaetb y Tywysog am yspaid yn an- mboblogaidd yn y wlad. Cyn bir, fodd bynag, fe welwyd nad oedd nemawr o berygl ynddo, ac y gallai y byddai yn ddoetb ymroddi ar unwaitb i wneyd i fyny y diffygion pwysig oeddynt wedi bod yn foddion i awgrymu i ŵr mor ddoeth y cyfryw ddrychfeddwl. Y mae yn eithaf posibl i ninnau fel Metbodist- iaid gymeryd ein llyncu i fyny gan fawredd ein hanes yn yr amser aeth heibio, a myned, gan ymffrostio yn ein nerth, yn anghymhwys i effeithio yn gryf ar yr amser presennol, ac yn hollol amddifad o'r hyn sydd yn anghenrheid- iol i ddylanwadu ar yr amser a ddaw. Onid yw sefydliadau yn wastad ar eu prawf ? O leiaf, nid ydynt yn llwyddo ond tra y mae y rhai sydd yn ffyddlawn iddynt yn teimlo fod yn bosibl iddynt fethu. Càn gynted ag y mae eu cyfeill- ion yn plethu eu dwylaw mewn hunan- foddhâd i edrych ar fawredd eu llwydd- iant, y maent hwythau, y pryd hyny, yn dechreu marw. Ac eto mae yn bosibl i amgylchiadau gyfarfod sefyäl- iadau gwladwriaethol ac eglwysig, sydd, mewn modd neillduol, yn eu gosod ar eu prawf. Mae y llong, heblaw ei gor- chwyl cyffredin o dramwy llwybrau y moroedd, weitbiau yn gorfod wynebu yr ystorm, a mordwyo lleoedd peryglus; y mae yn gofyn dyfalwch neillduol dan I amgylchiadau felly i ofalu am ei diogel- wch. A pha faint mwy os bydd y môr yn ddyeithr, a neb wedi bod hyd-ddo o'r blaen ? Y mae ein peryglon ni felly. Mae yn bosibl i ni yn ein tawelwch a'n hollddigonedd farweiddio i'r fath radd- au nes cyn pen nemawr farw yn llwyr; mae yn bosibl i ni gyfarfod â phrofedig- aethau; ac yr ydym yn wir wrth fyned rhagom i'r dyfodol yn mordwyo môr mor ddyeithr, fel na wyddom betb a all ddygwydd mewn amrantiad. Sut byn- ag, nid oes genym hamdden i segura ac ymddiofalhâu. Amcan yr ymdriniaeth yma fydd ceisio argraffu y gwirionedd mawr hwn ar galon Methodistiaid Cy- ru, fel y byddo y dyfodol yn teimlo oddiwrtho, a Duw, "yr Hwn a'n piau," yn cael ei ogoneddu. A oes anghen galw sylw neillduol at fater í'el yma y dyddiau hyn ? Yr wyf fi, ddarllenydd tirion, yn meddwl fod. Enwaf rai pethau a fydd, fe allai, yn ddigon i'th argyhoeddi dithau o'r un peth, ac yn foddion o bosibl i'n dwyn ein dau i ystyried yn ddifrifol beth a fynai ein Harglwydd i ni ei wneuthur mewn trefn i sicrhâu Uwyddiant ei waith yn ein dwylaw. Yn un peth, y mae pobpeth yn y byd hwn yn heneiddìo. Fe ddywed y gair fod y ddaear ei hun yn heneiddio fel dilledyn. Y mae hyny, yn sicr, yn wir am danom ni, a'r oll a berthyn i ni.