Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSÖRFA. Rhif. vii.] GORPHENHAF, 1831. [Llyfr i. BYWGRAPPIAD. HANES BYWYD A MARWOLAETH WILLIAM PÜGH, . O Lanmihanyel y Pennant, Sir Feirionydd, yr hwn afufarwMedi 14, 1829, * yn yr 81 jlwyddyn o'î oed. (Parhad ík dal. 163.^) Ar oì marw y gwr a ganiatasai le bychan i bregethu yn Cerig-y- felin, anturiodd William Pugh dderbyn y pregethu i'w dŷ ei hun; a bu yr achos crefyddol (Societÿ) yn gartrefol yno dros liaws o flynyddoedd ; ond bydd- ai y pregethu yn cael ei gynnal ar gylch, weithiau yn ei dŷ ef, ac weithiau mewn ystafell a gym. merwyd i'r dyben yn nghymmyd- ogaeth Aberganolwyn. Yn mhen 25 fl. (neu fe allai beth ychwan- eg) o ddechreuad pregethu yno, adeiladwyd Capel yn y Cwrt; ac ar ol hyn, o radd i radd, mud- wyd eisteddfod y moddion yno oll yn gyífredinol. Dylid sylwi wrth adgofio hyn, mai nid drwy ei hollol gydsyniad na'i foddlon- rwydd ef, y mudwyd y moddion mor llwyr o ardal Llanmihangel i'r Cwrt; ac annogai yn ddyfal a thaer iawn ei frodyr crefyddol i arfer pob moddion er llesad ac adeiladaeth ei gymmydogion yn yr ardal hono. Dywedai yn siriol lawer gwaith, "Byddaf foddlon i farw, ond cael gweled capel yn adeiliedig yn rhywle yn ardal y llan, a llwyddiant cyfattebol ar yr Efengyl." Wedi i William Pugh fod yn pregethu am oddeutu 5 neu 6 mlÿriedd, digwyddodd iddo gadw odfa yn NHywyn; a'r canlyniad a fu i ryw rai wneyd achwyniad erlýnedig yn ei erbyn ef ger bron üstus yr Heddwch, yr hwn oedd ýri preswÿlío yn agos i Dywyn, ac a gadwai y pryd hwnw nifer o filwŷr. Pari glybu yr Ustus yr achwyniad, rhSes orehymyn i ddeuddeg o'i filwyr i fyned i ei ddal a'i ddwyn ger ei ,fron ef, (dywedir i un o honynt gymeryd, arno fod yn afiach, fel yr*esgus- odid ef rhag cyflawni y gorchwyl annghroesawgar). Aeth 11 o honynt, ac a ymddygasaftt yn hynaws tuag atto yn eu hym- gyrch ; cyrhaeddasant yn arfog at ei breswylfod, yn foreuol ar ddydd gwener, yn nechreu hâf y fl. 1795, ac a'i daliasant yn eì wely. Mynegasant iddo o bale, ac i ba beth ý deuasaut Yna wedi derbyn y dyfun, ymbarotodd ac aeth gyda hwynt, a chyrhaedd- asant lŷs yr Ynad rhagddywed- edig, yr hwn a'i dwrdiodd yn erwinol, ac a'i dirwyodd yn y swm o £20: bu yn alluog i eu talu o fewn corph y dydd hwnw, a chafodd ei ollwng yn rhydd. Bu hyn yn achlysur i'w attal rhag llafurio yn gyhoeddus yn ngwaith yr Arglwydd dros yspaid o wythnosau; ond yn mhen ychydig enyd, aetb i DdBlgelleu i ymweled a'i gyfeiliion crefyddol yno, y rhai pan y'i gwelsant a fu lawen ganddynt o'i blegid, wrth ystyried y tywydd trwy ba un yr oedd newydd fyned ; ac o her- wydd eu sirioldeb tuag ato, a'u hanwyldeb o honaw, mynasant iddo roi gair o gynghor iddynt mewn modd cyhoeddus. Ufudd- haodd i eu caís, a phregethodd 2C