Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. xri. RHAGFYR, 1831. Llyfr r. PREGETH Y PARCH. J. SIBREE. Psalm 1. 3, " Cesglwchfy saint ynghyd attaf Ji:* (Parhadtudalen324.) Yn 2il. Mae y saint yn cael eu casglu ynghyd gan Dduw mewn addoliad cyhocddus. Mae cy- hoeddiad y testyn yn cael ei swnio trwy yr holl fyd bob sabboth, lle bynag y mae yr cfengyl yn cael ei phregetliu ; a phan yr ufuddheir i'r archiad, maeCrist yu ymrwymo i gyfarfod ei bobl a'u bendithio. Mae meistr mawr y gymdeithas wedi dywedyd " Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol.'' Ymha le bynag yr ymgyfarfydd- ant, ac i ba enw bynag y byddant yn perthyn, cyferfydd ef â hwynt. Nid ydyw yn dywedyd, lle byddo dau neu dri o egJwyswyr, neu ym- neillduwyr, &c. yn ymgyfarfod ynghyd yno yr ydwyf, ond lle byddo dau neu dri wedi ymgy- null yn fy enw mewn cywirdeb a gwirionedd, myfi agyfarfyddaf a hwynt, ac a'u bendithiaf. Y mae wedi casglu y gynulleidfa hon unwaith yn rhagor. Mae wedi ein casglu fel defaid i'w gorlan. Fel pererinion i'w gorphwysfa, fel y byddo i'n hysbrydoedd gael eu hadfywio, fel y byddo i ni fyned i'n ffordd ein hun yn llawen. Mae wedi ein casglu megis dis- gyblion i'w ysgol, fel y byddo i ni gael ein dysgu a'n gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth, Mae wedi ein casglu megis plant iV dŷ, fel y derbyniom arwyddion o'i gariad tadawl. Mae yn casglu ei saint oddi am- gylch ei orseddfaingc fel y byddo iddynt fyfyrio ar ei gariad, ac y byddo ganddynt achos i ddywed- yd " El'e a'n dûg i'r gwin-dy, a'i faner drosom ydoedd gariad,'' " Arglwydd, da yw ini fod yma." Yn 3ydd. Mae efe yn casglu ei saint ynghyd atto ei hun mewn amseroedd peryglus. Pan y byddo yr ystormydd yn ymddangos yn casglu oddiamgylch iddynt, mae efe yn awyddus i'w cysgodi rhag y gawod. Mae yn dywedyd wrth- ynt yn iaith Esaiah " Tyred fy mhobl, a dos i'th ystafelloedd,"— ystafell fy mherffeithrwydd a'm haddewidion—dos i'th ystafell a chau dy ddrysau arnat; llecha megis enyd bach, hyd onid el y llid heibio. Mae yn ddiamau genyf i chwi sylwi rai troion ar yr adar cartrefol, y drafferth a'r gwilio y maent pan y byddo yr ad- ar ysglyfaethus yn ehedfan uwch eu penau; mae Iesu yn casglu ei bobl ynghyd megis y casgl yriâr ei chywion dan ei hadenydd. "Bíor werthfawr yw dy drugaredd o Dduw!" medd y Salmydd, "am hyny yr ymddiried meibion dyn- ion dan gysgod dy adenydd." Pan y byddo rhyw otìdiau yn digwydd, dirgel neu gyhoedd, nyni a gawn Dduw yn gymhorth parod yn ein holl fíinder. Fel hyn pan foddwyd y byd gan ddwfr, fe gasglodd Duw Noah a'i deulu i'r arch, gan ddywedyd " Dos di a'th holl dŷ i'r al■ch.', 2Z