Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. XX.] AWST, 1832. [Llyfr h. PIGION O GYFARCHIAD I FORWYR A draddodwyd ger gwydd Cymdetíhas Fiblaidd Forawl Portland, gan y diieeddar Barch. Dr. Payson, o'r America. (Parhad tu dal. 196. j NI fyddai yn anfuddiol gwneud rhai crybwylliadau o barth i'r rhan flaenaf o'ch hynt fordwyol. Os edrychwch ar eich Llen (Chatt) chwi a ganfyddwch graig beryglus wedi ei nodi yn lled agos i'r lledred (latitude) yr ydych ynddo yn awr, yr hon a elwir craig anghymedroldeb, neu graig y meddwyn. Y mae y graig hon (ar yr hon y mae nod o berygl amlwg) agos yn wèn gan esgyrn morwyr truain a drengasant arni. Rhaid i chwi ofalu i ymgadw yn ddigon pell oddiwrthi, o herwydd fod llifeir- iant cryf iawn tuag atti: os un- waith yr ewch i fewn i'r llifeiriant hwnw, chwi a'i cewch yn orchwyl anhawdd iawn tynu allan o hono. A rhyfedd iawn os na tharewch ar y graig nes eich gwneud yn gandryll. Gellir gweled mor- ladron yn aml o gyieh y gororau hyn, yn ymdrecíigar i'ch per- swadio nad yw yn berygìus, ac nad oes yma un tyn-lif. Ond gofalwch na roddoch goeì iddynt; eu hunig amcan hwy yw cael yspail. Trachefn, heb fod yn neppell oddiwrth y graig hon y gwelir llyn tro wedì ei nodi, sŷdd agos mor beryglus a'r graig; ei enw yw "Llyn tro cymdeithion drwg." Ac nid anaml y gwelwyd y llyn tro hwn wedi lluchio llestri ar graig y meddwon. Ei sefyllfa sydd gerliaw llyngclyn dystryw; ac y mae yn bwrw pawb a ddelo iddo i'r llyngclyn hŵnw. Y mae yn gylchedig gan amrai drylifau bychain, drwy yr hyn y dygwyd llawer o forwyr iddo cyn gwybod pa le y byddent. Gan hyny gochelwch y trylifau hyn, a hwyliwch yn ddigon pell oddi- wrth y llyn tro hwn, canys efe a lyngcodd fwy o forwyr o lawer na'r mor. Mewn gwir, porth uftern yw. Heblaw y lîyn tro, a'r graig yma, y mae lliaws o draethelìau a beisleoedd wedi eu nodi ar eich arweinlen na feddaf adeg i'w darlunio yn awr. Y mae y moroedd hyn yn llawn o honynt, yr hyn sydd yn peri í'od mordwo yma mor berygius. Os mynech chwi eu goehel hwy oll, ac ymgadw rhag y llyngclyn ofnadwy a grybwyllwyd eisoes, rhaid i chwi droi yn ddioed, gwneud arwydd am gyfarwydd-r wr, a llywio tua chulfor edifeir. wch, yr hwn a ganfyddwch ar eich cyfer; y culfor cyfyng hwn yw yr unig fynedfa allan o'r moroedd peryglus hyn y buoch yn eu morio i'r mor mawr taw/el vr hwn a elwir weithiau mor diogel, neu for yr iachawdwriaeth; ar lanau draw yr hwn y mae eich •porthladd, ATid yw y fordwyaeth drwy y culforoedd hyn yn hyfryd iawn \ am hyny y dyfalchwtliodd liawer atn fynedfa arall: ac yn wir y mae rhai ftug-gyfarwyddwyr yn haeru fod un arall, eithr cani^ gymeryd f maent, o herwydd fe