Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Bhif. XXIII.] TACHWEDD, 1832, [Llyfr ii. SYLWEDD FREGETH Ar Rhuf. viii. 14. * Cahys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw." Mae yr Epistol at y Rhufeiniaid yn nodedig o reolaidd a threfnus. Mae y bennod hon yn un o'r pennodau mwyaf cyflawn ynddo. Mae yr adnod dan sulw yn dangos, I. Rhagorfrainty duwiolion, "y rhai hyn sydd blant i Dduw." II. Eu nod hwynt ragor pawb ereill, Hwy "a arweinir gan Yspryd Duw." Cael bod yn blant i Dduw yw y rhagorfraint fwyaf a allwn gael by th. " Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad amom, fel yn geiwid yn feibion i Ddute» Nid oes neb yn blant i Dduw wrth natur: dywedir ein bod yn blant anufudd-dod,—plant digofaint,—plant diafól, &e. Dyma y cyflwr yn yr hwn y mae Duw yn cael pawb. Yr ydym yn cyfateb i'r enwau hyn wrth natur- iaeth. Y diafol yw ein tâd, ac mae anufudd-dod fel yn fam i ni. Mewn ufudd-dod i'r diafol, anufuddhaodd Adda i Dduw. Yr oedd, ac y mae uffudd-dod i ddiafol yn anufudd-dod i Dduw. Nid plant anufudd a ddywed- ìr, ond ** plant anufudd-dod." Mae 'r geiriau yn dangos ein bod yn y sefyllía hon yn ein cenhedliad cyntaf; o her- wydd "mewn anwiredd y'n lluniwyd," &e. Y modd y mae Duw yn gwneud plant digofaint yn blant iddo ei hun, yw, eu haileni, a'u mabwysíadu. Gwaith yn ac ar y dyn yw aileni, a gwaith arno ac mewn perthynas iddo yw mabwysiadu. 1. Aileni. Nid cyfnewid y dyn yn j | naturiol yw aileni: ond fel y mae yn ddyn drwg mae yn cael ei gyfnewid. Nid ei gyfnewid ehwaith fel y mae yn greadur ond fel y mae yn bechadur. Nid cyfnewid cynheddfau 'r enaid, ond y mae yn gyfnewidiad ysbrydoi o Dduw,—gan Dduw,—ac ar ddelw Duw. Nid ywyr anian bechadurus yn cael ei diddymu yn yr ailenedig- aeth, ond mae yn cael ei gyrn o'r orsedd. Mae'r anian dduwiol o'r hâd brenhinol, am hyny mae ar yr orsedd: ac fel y mae y gwaith yn myned ymlaen enillir y dyn yn gwbì ar ddelw Duw. 2. Mabwysiadu. Cymeryd estron i fod yn blentyn yw hyn. Yr oedd hyn yn gyfraith, ac yn ddefod gynt Cawn hanes am ferch Pharaoh yn eymeryd Môses yn fab iddi ei hun; ac fe'i dygwyd i fynu yn holl ddysg- eidiaeth yr Aipht. Oad pan aeth Moses yn fawr, fe wybu nad ei mab hi oedd ef, ac er ei fod wedi ei fabwys- iadu yn fab iddi, ni allodd roi anian arall ynddo. Ond mae Duw yn aileni hefyd. Yn yr undeb a Christ y mae y pechadur yn dyfod i gael y rhagorfraint o'i fabwysiadu i deulu Duw. Mae holl blant Duw yn etifeddion, a chyd etifeddion â Christ. II. Nod plant Duw. Y macnt yn cael eu harwain gan Ysbryd Duw. Wedi eu mabwysiadu a'u lmileni, nid ydynt yn eaél eu gadael, ond yn cael eu harwain gan Ysbryd Dûw. " Yn hyn y mae'n amlwg blant Duw,'> &c. With eu rhodiad yr adnabyddir hwy. Mae Uawer yn y byd yn rhodio yn ol 2S