Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DBYSORFA. Rhif. XXVII.] MAWRTH, 1849. [Lltfb III. aSsfograföatr. Y PARCH. DANTEL JONES, Y CENADWR. Mab ydoedd Daniel Jones i'r'Bardd enwog Edward Jones, Maes y Plwm, gerllaw Prion, Swydd Dinbych, o'i eilfed wraig Margaret, yr hon a fu farw pan oedd gwrthrych ein Cofiant yn bum 'mlwydd oed. Ganwyd ef yn y lle crybwylledig Medi 12ed, 1813. Galluogir ni i roddi hanes ei ddygiad i fynu, ynghyda golygiad cyffredinol ar ei brofiad mewn pethau crefyddol, yn ei ymadroddion ef ei hun, y rhai a ysgrifenasid ganddo, debygid, mewn ffordd o ragbarotöad i'r arholiad a fu arno yn Nghymdeithasfa y Wyddgrug, Mawrth 2ed, 1842, pryd y derbyniwyd ef yn aelod o'r Gymdeithasfa fel pregethwr. Fel y canlyn y mae yr ysgrif a gafwyd yn mysg ei bapyrau :— " Cefais y fraint o gael fy ngeni o rieni erefyddol, a'm dwyn i fynu gydag aehos crefydd, sef mewn undeb â'r eglwys yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd. Bu fy rhieni, pan oeddwn yn bur ieuanc, yn ymdrechgar i wasgu pethau crefydd at fy meddwl, ac i'm dysgu ynddynt. Ehyw ranau o'r Bibl ag oeddwn yn eu dysgu allan oeddynt yn effeithio yn ddwys ar fy meddwl, y'nghyda chynghorion fy rhieni, a'r cynghorion oeddwn yn eu cael yn yr eglwys, fel yr wyf yn eu cofio, rai o honynt, etto. Byddai y pethau hyn yn effeithio i'm gyru i geisio gweddio, ac i gilio oddiwrth rai drygau a gyflawnai plant ereill y byddwn yn cymdeithasu â hwynt. Wedi i mi ddyfod oddeutu 12 neu 13 oed, a bod yn fwy yn nghymdeithas bechgyn annuwiol, bu hyny yn foddion i'm llygru yn fwy, ac i'm gwneyd yn fwy gwyllt; a gallaf ddywedyd fod y cyffelyb dueddiadau drwg ynof fi a hwythau yn gwbl. Ond trwy ofal fy nhad a'r eglwys yr oeddwn yn perthyn iddi y pryd hwnw (sef Llyn y Pandy, Swydd Fflint), ynghyda rhyw radd o ofn Duw ar fy meddwl, attaliwyd fi rhag pechodau cyhoeddus a gwarthus fel plant ereill. Pan oeddwn o 13 i 14 mlwydd oed, a throsodd, effeithîai y preg- ethau a chynghorion fy nhad a'r eglwys yn fwy ar fy meddwl, nes peri fod fy mhechodau yn fwy o ofid i mi, ac i beri i mi benderfynu yn gwbl ac am byth i adael fy hen gymdeithion ofer. Tua'r pryd hyn, sef Mehefin 24, 1827, cyn i mi fod yn 14 mlwydd oed, derbyniwyd fi at Swper yr Arglwydd. Daethum i gael mwy o hyfrydwch yn moddion gras, darllen y Bibl, a llyfrau buddiol, a dysgu allan, a hefyd i arferyd gweddio yn amlach, a chael hyfrydwch yn hyny. Yn ngwanwyn 1829 symudodd fy nhad i Cilcain, a chefais yno fwynhau moddion gras yn gyhoeddus a neillduedig, gyda phob cysondeb. Heblaw fod fy mhechodau gweith- redol yn peri gofid i mi, yr oedd fy nhueddiadau pechadurus, a drwg fy nghyflwr i raddau yn achos trallod a galar i fy meddwl. Nid wyf yn gwybod am un odfa, neu ran o Air yr Arglwydd, yn neillduol, yn effeithiol i fy argyhoeddi o ddrwg pechod, a thrueni fy nghyflwr, fel ar unwaith ; ond yr wyf yn cofio am amryw o odfaon, &c, yn effeithio ar fy nhymherau, ac yn aros yn eu heffeithiau wedi i'r amserau hyny fyned heibio. Yr wyf yn cofio fy mod yn barnu fod yn fy nghalon i fwy o ddrwg nag o'r bron yn nghalon neb, a'm gweddi ar Dduw oedd am iddo ef lanhau y ffynnonell o'r drwg oll. Yr hyn a barai drallod lled drwm i fy meddwl, oedd, nad oedd genyf wir grefydd, na ailanwyd fi ; etto penderfynwn arfer moddion gan ddysgwyí am hyny. Y tro cyntaf mwyaf neillduol yr wyf yn cofio pryd yr oeddwn yn meddwl fod fy mater wedi ei wneuthur yn dda rhyngof â'r Arglwydd, oedd wrth ddarllen gwaith Mr. Boston, ar y ddyledswydd o ymgyfamodi â Duw wrth ymprydio, sef tua'r flwydd- Cyfees Newydd. h