Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. LXIV.] EBRILL, 1852. [Llyfr VI. ^rnrfbnìrnn a ^ntnẅrtjjaii. LLOFRUDDIAD PLANT EPHRAIM. Cyfieithiad talfyredig o Bregeth a draddodwyd gan y Parch. John Brown, D.D., Edinburgh.* " A dvnion Gath, y rhai a anwyd yn y tir, a'u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod o honynt i waered i ddwyn en hanifeiliaid hwynt. Ac Ephraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer ; a'i frodyr a ddaethant i'w gysuro ef." 1 Cron. vii. 21, 22. " Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fudd- iol i athrawiaethu, i argyboeddi, i ger- yddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder : fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda." Yn y mwngloddiau aur, y mae gwythenau o gyfoethogrwydd arbenig ; eithr cyf- rifir hyd yn nod y malurion pridd sydd yno yn werthfawr. Yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, y mae tystiolaethau sydd o bwysigrwydd a gwerth neillduol ; ond nid oes yn yr holì Air Dwyfol ddim ofer a diddefnydd. Gall darllenydd di- ofal y Bibl gyfarfod âg amryw ranau ynddo lle bydd yn anhawdd neu yn an- mhosibl iddo ef gaffael addysg fuddiol, a gall ammheu y doethineb o gyfìeu y cyfryw yn y llyfr sanctaidd ; tra mewn gwirionedd fod yr holl fai ar ei wendid, ei anwybodaeth, neu ei anystyriaeth ef ei hun. Ond am ddarllenydd meddylgar y Bibl, a'r hwn sydd yn arfer gweddi, ni chyferfydd ef ag un gyfran o'r gwirion- edd nas gall weled ei bod wedi ateb, * Mae y Dr John Brown yn ŵyr i'r enwog John Browu, o Haddington, ac yn brif athraw Coleg Eglwys yr Uniteà Presbyterians yn Scotland, a chyfrifir ef yn awr fel blaenor y cyi'undeb parchus hwnw. Mae yn awdwr amryw o lyfrau rhagorol, y penaf o ba rai ydynt, " Expòsitory Discourses on the First Epistle o/ Peter," yn ddẁy gyfrol fawr; a " Disçourses and Sayintjs o/'our Lord' Jesus Christ, ilhistrated in a series o/ Exposilions," yn dair cyfrol. Cyi iìes Nlwydd. neu yr etyb eto, ryw amcan pwjTsig, nac âg ond ychydig iawn, yn wir, o ba le nas gall dynu iddo ei hun wersi pw}rsig o hyfíbrddiant crefyddol a moesol. Dawn y dylai pob cristion ei hamaethu, y w medru cael allan yr add- ysg briodol sydd yn y rhanau hyny o'r Ysgrythyr a olygir yn gyffredin fel yn llai ffrwythlawn na rhanau eraill; ac y mae yn ymddangos i mi mai rhan bwysig, er mai nid y benaf, o ddyled- swydd y gweinidog cristionogol, ydyw, egwyddori ei wrandawyr yn yr' iawn ffòrdd i ddeongli a chymhwyso y cyf- ryw leoedd yn y gyfrol ysbrydoledig, gan ddwyn allan y gwirioneddau gwerth- fawr a guddir ynddynt, ac ar yr un pryd eu gwylio rhag y duedd hono i alegor- eiddio, sydd yn fynych yn gwyrdroi ymadroddion Ysbryd Duw i fod yn ym- borth i freuddwydion dychymyg dyn. Ystyriaeth o hyn sydd yn un rheswm paham y dewisais fy nhestim yn awr o'r llyfr hwnw yn y Bibl, sydd, fe allai, yn cael ei ddarllen"a'i astudio leiaf gan y rhan fwyaf o gristionogion ; ac ni synwn i os nad oedd adroddiad ein tes- tun yn cael ei gyfrif fel darganfyddiad newydd gan rai sydd yma, a'r rhai hyny yn gyfryw nas gellir eu cyhuddo o fod heb arfer darllen yr Ysgrythyrau. Mae rhan fawr o lyfr cyntaf y Cron- icl yn cynnwys cj'fres o dafìenau ach-