Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. LXVI.] MEHEFIN, 1852. [Llyfr VI. ŵnrtíjüto n ŵjẅẁtrtjŵ FFYDD MOSES. Pregeth a draddodwyd yn yr "Wyddgrug, Awst 2, 1846, gan yr HEÎíADUR PARCHEDIG LEWIS MoRRIS, MEIRION. " Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh ; gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau yr Aipht: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy." HbbhbäJD xi. 21—26. Sôx sydd yma, chwi a glywch, am Moses, ac am fíydd Moses. Yr oedd y Moses hwn yn rhagori ar ei oes o bobl, ac yn rhagori ar yr oesoedd hefyd ; a thrwy ei ffydd yr oedd yn rhagori. Dyma sydd yn gwneyd rhag- oriaeth rhwng duwiol ac annuwiol,— fod gan un flÿdd, a bod y llall hebddi ; a dyma sydd yn gwneyd rhagoriaeth rhwng y naill ddyn duwiol a'r llall,— fod ffydd un yn fwy a chryfach, a fiÿdd y llall yn llai a gwanach. Dyrna sydd yn uno pechadur â Christ,—ftydd. Dyma sydd yn gwneyd y colledig yn gadwed- ig,—fíydd yn Nghrist. Ganwyd Moses yn ngwlad yr Aipht ar amser isel iawn ar wir grefydd,— amser o erlidigaeth mawr arni. Mae yn debyg fod yr amser y llewyrchodd y seren fawr yma ar y byd yn un o'r am- serau tywyllaf ar achos Duw a fu er- ioed. Yr oedd crefydd wedi bod cyn y pryd yma yn uchel yn ngwlad yr Aipht, sef yn amser Joseph. Gwlad ddigrefydd, isel ei moesau, oedd gv\rlad yr Aipht yn gyffredin ; ond yno, yn amser Joseph, yr oedd gwir grefydd uchelaf yn yr holl fyd ; ac yn wir ni wnia oedd gwir grefydd i'w chael yn unlle arall. , Nid rhyfedd fod crefydd yn uchel y pryd hyny ; oherwydd y gŵr uchaf mewn crefydd ydoedd hefyd y gŵr uchaf yn y llywodraeth Cyfres Newydd. am bedwar ugain mlynedd. Y dyn doethaf a duwiolaf yn y wlad oedd y blaenaf yn y wladwriaeth dan y bren- in. Yr oedd Joseph yn ddeg ar hugain oed pan y cafodd ei ddyrchafu yn prime-múnister yr Aipht, a bu farw yn gant a deg oed. Mae gwŷr mawr gwir grefyddol o les dirfawr mewn gwlad. Dedwydd yw y deyrnas lle mae rhai fel hyn yn oruchaf. Ond wedi marw Joseph, a marw y brenin oedd yn gyfaill iddo, " cyfododd brenin newydd yn yr Aipht, yr hwn nid adnabuasai mo Joseph." Trôdd y brenin hwnw yn erlidiwr. Yr oedd yn ei gael ei hun mewn profedigaeth, ac yr oedd ei brofedigaeth yn un bur ryfedd. Ei brofedigaeth ydoedd, fod crefyddwyr yn myned yn rhy aml yn ei wlad ; a dyma fe yn amcanu lleihâu eu nifer, ac amlhâu annuwiolion ac an- nuwioldeb. Mae Ue i ofni fod brodyr iddo eto, y rhai a ddymunent, pe gaìl- ent, gael gweled yr un pethau yn y wlad hon. Y canlyniad a fu, iddo osod cyfraith mewn grym i ladd plant gwry w y crefyddwyr yn fabanod ; pan y genid hwy, yr oeddent i gael eu lladd yn eb- rwydd. Dyma yr erlidigaeth fwyaf af- resymol y clywsom am dani erioed. Yr oedd gan Rufain Baganaidd a chan Mari Waedlyd ryw rith-reswm am eu herlidiau, oherwydd fod y 'rhai a ferth-