Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETSOEPA. Ehif 738.] EBRILL, 1892. [Llyfr LXII. ADDYSG UWCHRADDOL A CHYNNALIAETH Y WEINIDOGAETH. GAN Y PARCH. D. LLOYD JONES, M.A., LLANDINAM. Y mae'r pwnc hwn yn naturiol yn hawlio sylw arbenig yn ein dyddiau ni, oblegid y mae ein gwlad wedi cyr- haedd i argyfwng pwysig sydd yn galw am ddynion llwyr-jonroddedig i waith y weinidogaeth. Pan y bydd y cynlluniau sydd yn awr dan ystyr- iaeth gan arweinwyr y genedl wedi eu sylweddoli, bydd genym gyfundrefn o sefydliadau i gyfranu addysg, trwy gyfrwng pa rai y gall plentyn ymesgyn o'r ysgol elfenol nes cymeryd graddau gydag anrhydedd yn arholiadau Bwrdd Cyffredinol yr Athrofeydd Cenedlaeth- ol. Cyn diwedd y ganrif hon bydd Cymru yn Uawer uwch mewn diwyll- iant a dysg nag y bu ar un adeg o'r blaen yn ei hanes. Er mwyn cyfadd- asu gwýr ieuainc ar gyfer tô goleuedig o drigolion, gwneir ymdrechion can- moladwy i'w haddysgu yn fwy trwy- adl yn y cangenau hyny sydd yn dal perthynas uniongyrchol â gweinidog- aeth y Gair. Y gris cyntaf yn y cyfeiriad yma yw ymdrechu casglu .£80,000, i'w hychwanegu át gronfeydd ein hathrofeydd duwinyddol, er mwyn ychwanegu at nifer ein hathrawon, a'u cydnabod yn fwy anrhydeddus am eu llafur, a hefyd er mwyn cynnorthwyo y myfyrwyr i fyned trwy eu cwrs athrofaol. Y mae hyn oll bron yn hanfodol anghenrheidiol, ac nis gall neb sydd yn dymuno gweled crefydd yn ei diwyg Fethodistaidd yn dal ei gafael ar y wlad ac yn llwyddo, lai na gobeithio gweled y cynllun hwn wedi ei sylweddoli. Ond wedi chwyddo ein Cronfeydd Athrofaol i £80,000 neu .£90,000, ac wedi cael gan ein dynion ieuainc i dreulio pum' mlynedd neu ychwaneg yn yr athrofeydd, er ym ddarparu ar gyfer gwaith y weinidog aeth, pa foddion sydd genym i'w cyn nal uwchlaw gorbryder am eu ham gylchiadau bydol ? Tra byddo gwein idog yn cael ei lethu gan ofnau ac ammheuon, ac yn methu yn llwyr er pob ymdrech i fyw yn ddiwastraff a darbodus a chyfarfod â gofynion ei ddyledwyr, a rhoddi addysg briodol i'w blant, er mwyn eu cymhwyso ar gyfer cylchoedd o ddefnyddioldeb yn y byd, ofer yw ceisio ei berswadio i ym- foddloni trwy ei adgoffa ei fod wedi cael addysg uwchraddol drwyadl dda, a hyny ar draul y Cyfundeb. Y mae y cynlluniau gwych sydd genym er mwyn cyf addasu ein dynion ieuainc ar gyfer y weinidogaeth, yn ein gosod dan fwy o rwymedigaeth nag erioed i wneyd darpariaeth ar eu cyfer; ac oa esgeuluswn hyn, byddwn yn euog o anghysondeb anesgusodol. Yr ydym yn ceisio efelychu y Scotiaid mewn diwylliant meddyliol, ond y mae pob lle i ofni ein bod yn rhy amddifad o'u syniadau anrhydeddus am gynnäliaeth