Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DETSOEFA. Ehif 745.] TACHWEDD, 1892. [Llyfb LXII. CAEL TEWY GOLLI. GAN Y PAECH. J. E. DAVIES, M.A., LLUNDAIN. "Yr hwn sydd yn caru ei einioes a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casâu ei einioes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragywyddol."—Ioan xii..25. Yn yr oes bresennol y mae llawer iawn o son yn bod am ddeddfau cyffredinol, sef deddfau ag y mae eu gweithrediad i'w ganfod yn rheolaidd a chyson drwy bob rhan o'r greadigaeth, megys deddf attyniad, deddf achos ac effaith, a deddf unffurfìaeth natur. Y mae'r deddfau hyn mor gyffredinol a rheol- aidd yn eu gweithrediad, fel yr edrychir ar unrhyw eithriad iddynt yn ddim amgen na gwyrth. Ac nid yn myd natur yn unig y mae deddfau felly i'w cael; ond y mae'r Bibl yn fynych yn dadguddio i ni ddeddfau cyffredinol. Cawn fod Iesu Grist yn bur aml yn dysgu gwirioneddau cyffredinol, ac yn dadguddio egwyddorion cyffredinol, ac y mae'r cyfryw mor fawr eu dylanwad, mor eang a rheolaidd, fel y gellir olrhain eu gweithrediad yn y byd naturiol ac yn y byd ysbrydol ar yr un pryd. Y maent yn ddeddfau cyff- redinol yn ystyr fwyaf manwl yr ym- adrodd hwnw. Ond pan fuasai Iesu Grist yn ymdrin âg egwyddorion felly, yr oedd yn ddigon hunanymwadol i beidio gwneyd arddangosiad mawreddog o honynt, ac ni fuasai byth yn eu dynodi wrth ryw enwau ymhongar. Yr oedd Efe yn rhy fawr i wneyd peth mor fach. Ond y mae'r geiriau sydd yn cynnwys yr egwyddorion yn gyfryw ag sydd yn profi fod eu gweithrediad yn hollol gyffredinol. Dyna un o honynt, ac un sydd wedi cael ei geirio yn y modd mwyaf syml a diymhongar,—"Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond y rhai cleifion." Er mor syml ydyw'r geiriau, y rnaent yn rhoddi dadganiad i wirionedd, cyffredinolrwydd yr hwn nis gellir ei ammheu, a deddf sydd yn gwneyd eithriad iddi yn beth an- mhosibl. Y mae yna engraifft arall o beth cyffelyb yn y geiriau hyny,—" Yn wir, ni ddeui di allan oddiyno hyd oni thalech y ffyrling eithaf." Dyn wedi troseddu'r gyfraith gyferchir yn y geiriau, ac wedi cael ei fwrw i garchar o herwydd ei drosedd; a'r ddeddf gyffredinol ddadguddir ydyw fòd yn rhaid i bob trosedd gael ei gosbi, neu mewn geiriau eraill, na fedr yr un troseddwr ddianc rhag y gosb haedd- îannol iddo. Deddf ydyw hon eto sydd mor eang a chyffredinol yn ei gweith- rediad fel ag y mae yn wirionedd mewn ystyr ysbrydol yn gystal a naturiol. Y mae un o'r deddfau cyffredinol hyn yn cael ei chynnwys yn yr adnod dan sylw; ac y mae yn amlwg fod Iesu Grist yn edrych arni fel un o egwyddorion mwyaf hanfodol ei ddysg- eidiaeth. Y mae yr un gwirionedd