Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSOEFA. ÎÌHIF. CXLIV.] RHAGFYR, 1842. [Lltfr XII. DUWINYDDIÄETH HOLWYDDOREG AR ATHRAWIAETH Y CYFRIFIAD, Gofyniad. Beth ydych yn olygu wrth gyfrifiad ? Atebiad. Y weithred oruwoh-na- turiol hòno o eP ^o Duw, yn tros- glwyddo euogrwydd; - u gyfiawnder, y naill berson, a'igyf"' llall. G. Pa sawl i ti&u y sonia'r Bibl am danynt ? A. Tri chyfrifiad. 1. Cyfrifiad o bechod cyntaf Adda i'w hâd. 2. Cyfrifiad o bechodau ei bobl ar Grist. 3. Cyfrifiad o gyfiawnder Crist i'w bobl. G. Beth ydych yn olygu wrth gyf- rifiad o bechod Adda i'w hâd ? A. 1. Fod ein hundeb âg Adda fel cynnrycbiolwr a phen-cyfamodwr dros ei hâd yn gwneud y weithred hòno o dori'r cyfamod yn gyfrifedig i'w holl bâd,'yr un modd ag iddo ei hun, a'r canlyniad yw, (1.) Fod euogrwydd Adda, neu ei rwymau i gosp, am dori'r cyfammod,yn gyfrifedjg i ni, ei holl hâd. " Felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn yn gym- maint a phechu o bawb/' Rbuf. 5. 12. 18,19. Jobl5.14. Eph.2. 3. 2. Fod anian bechadurus Adda, yr hon a ennillodd efe iddo ei hun wrth bechu, yn cael ei throsglwyddo i ni. tf Wele mewn anwiredd y'm lluniwyd," &c Salm 51. 5. Job 14. 4. a 25. 4. Ioan 3. 3. Yn mhellach etto, mae y gogwydd cryf at bethau gwaharddedig a phech- adurus, sydd yu amlwg weledig yn y baban bach, mor fuan ag y del yn abl meddwl a gweithredu, yn profi gwir- ionedd yr athrawiaeth hon. Salm ö8. 3. Esa. 48. 8. Heblaw hyny, mae fod babanod yn ddarostyngedig i boenau ac angeu yn profi eubod yn bechaduriaid; pe na buasai ynddynt bechod, buasai yn ang- hyfiawn iddynt ddyoddef ei felldith, canys " cyflog pechod yw marwolaeth." Rhûf. 6. 23. G. Addefir fod pawb yn reddfol lygredig pan yn dyfod i'r byd ; etto, onid yw Iawn Crist wedi ewbl ryddau pawb oddiwrth y felldith a'r condemn- iad o'i herwydd, hyd nes y delont i bechu yn weithredol eu hunain ì A. 1. Nis gellir gwahanu rhwng hal- logrwydd ac euogrwydd mewa dyn, canys lle bynag y ceir pechod, mae yno ddefnydd meildith. Hab. 1.13. 2. Mae fod dyn yn cael ei eni yn am- ddifad o wreiddiol sancteiddrwydd, yn ei wneud yn agored i felldithion y ddeddf tan ba un y mae yn cael ei eni yn ddeiliad. Heb. 12.14. G. Os ydyw pawb yn cael eu geni dan felldith, pa fodd y bydd babanod yn gadwedig; am nas gellir eu cadw trwy gredu yn Nghrist, am nad oe» ganddynt alluoedd i gredu nac anghredu, ac fe ddywed y Bibl, " yr hwn nid yw yn credu, ni wel fywyd ?" A. Pob peth sydd bossibl gyda Duw; yr hwn a fedr wneuthur y ffôlynddoeth i iachawdwriaeth. Ond yn mhellach, os oes llygredd ynddynt, mae'n rbaid cael gwaith sancteiddiol yr Ysbryd Glân arnynt, cyn y gallont fyned i'r nefoedd. " canys nid â dim dim aflan i mewn yno," a phaham gan hyny nas gellir eu cyfiawnhau yn gystal a'u sanct- eiddio. G. Beth a olygwch wrth gyfrifiad o bechodau ei bobl ar Grist ? A. Ddarfod i Dduw gyfrif ar Grist, J ac i Grist gymmeryd arno bechodau ei bobl yn wreiddiol a gweithredol, megis pe huasent yn eiddo iddo ei hun, ac felly yn eu deddfle, a weithredodd drostynt, megis pe buasent yno eu hun- ain. {«Os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn creda y byddwn fy w hefyd gydag ef." Gal. 2. 20. Rhuf. 6. 4. Col. 2.10—12. B b