Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

210 NEWYDDION MEWN CYSYLLTIAD A METHODISTIAETH GALFINAIDD. ddiau i'r ymdrechiadau anarferol at dalu y ddyled; ond yr oedd hefyd ychwanegiad o £5,168 ar y derbyniadau blynyddol ar- í'erol. Ymddangosai oddiwrth yr adrodd- iad fod y daioni ysbrydol a gynnyrchwyd trwy lafurwaith y Cenadon, wedi bod ar gynnydd hefyd. Llywyddid y cyfarfod gan J. Cheetham, Ysw., A.S. Cylchwyl Cymdeithas Genadol y Bedydd- wyr a lywyddwyd gan yr Anrh. Arthur Kinnaird, A.S. Yr oedd gradd mwy neu lai o lwyddiant wedi dilyn gweithrediadau y Genadaeth y flwyddyn ddiweddaf yn yr holl barthau y mae yn gorsafu, yn cyn- nwys Llydaw, India, Affrica, yr India Or- llewinol, Ynysoedd y Bahamas, Ceylon, a rhai manau eraill. Yn niwedd y flwyddyn ddiweddaf yr oedd y Gymdeithas mewn dyled oedd yn agos i fil o bunnoedd; ond trwy ymdrechiadau Syr S. Morton Peto, y trysorydd, a rhai cyfeillion galluog eraill, yr oedd y ddyled wedi ei thalu, a £301 mewn llaw. Ỳr oedd yr holl dderbyniad- au yn £21,402. Nid oedd ond un cenadwr yn ngwasanaeth y Gymdeithas wedi marw y flwyddyn hon; ond yr oedd amryw wedi gorfod dyfod adref o herwydd afiechyd. Ämiîuuinîi mm riîsijlltiiŵ n Ŵtljnìíiẁrtlí c0niEuatìtìt* SIR EORGANWG. Marwolaeth E.Bassett, Ysw.,—Bufarw yr 8fed o Ebrill diweddaf, yn 74 mlwydd oed, Elias Bassett, Ysw., o Lanilltyd Fawi', Morganwg. Gŵr tra adnabyddus oedd Mr. Bassettibawb o bregethwyr teithiol y Meth- odistiaid Calfinaidd. Bu ei dŷ yn agored, ac yn llettŷ cysurus a chroesawgar iddynt am lawer o ddeugain mlynedd. Cyfreithiwr oedd Mr. Bassett am ei holl oes, ond nid oedd byth yn cymeryd achosion ammheus a dyryslyd i'w profi yn y sessiwn a llys- oedd bam eraill. Y gangen houo o'r alwad a ddilynai, sef, gwneyd gweithredoedd o bob math, yn enwedig ewyllysiau. Hwyr- ach iddo wneyd cymaint â'r mwyaf o bawb o'r rhai hyny. Cyfrifid ef yn ddyn gwir barchus gan bawb a'i hadwaenai. Gŵr o ymddiried oedd gan wreng a boneddig; ac nid am- mheuid cywirdeb a gonestrwydd unrhyw beth ag y byddai llaw gan Mr. Bassett ynddo. Cododd ei gymeriad i fyny i'r fan uchaf yn ngolwg ei wlad. Nid oedd neb yn cynnyg rhoi anair iddo. Bu yn fodd- ion i ddyrchafu crefydd i olwg y mawr- ion, o herwydd ei ymddygiadau gwir deil- wng iddi. Ni welwyd crefydd," dybygid, wedi gwneyd mwy o'i hargraff ar neb. Yr oedd wedi ei feddiannu oll gan ostyng- eiddrwydd a hunanymwadiad. Ceia ef mor ddifalch a'r iselaf, ac mor hawdd i bawb o'i frodyr ymddyddan âg ef â phe buasai y gwaelaf yn eu mysg. Bu o ddefn- ydd mawr gyda'r achos yn y Sîr hon am flynyddoedd lawer, a chymerai drafferth i wasanaethu crefydd yn ei holl ranau. Yr oedd o herwydd gwendid iechyd wedi methu cymysgu cymaint â'i frodyr er ys rhai blynyddoedd, ond wrth fyned ato caid ef yn un ag oedd yn ystwyth ac yn barod i gydweithredu â hwynt yn eu holl benderfyniadau. Clywid ef bob amser yn dyweyd yn barchus am bawb o'r brodyr, a dangosai gymaint o barch a gofal am les a chysur y naill a'r llall o honynt. Yr oedd achos ei Dduw, a chariad at yr holl frodyr sanctaidd wedi cael lle dwfn yn ei fynwes. Bu yn wir flyddlawn gyda'r achos yn ei holl ranau yn ei le cartrefol. Dilynai y cwrdd gweddi wythnosol hyd y gymydog- aeth i'r teiau tlotaf yn ddiwahaniaeth. Perchid ef yn fawr gan bob gradd a'i had- waenai, ac ennillodd iddo ei hun air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Bu gyda'r achos am fwy na deugain mlyn- edd, a gorphenodd ei yrfa mewn hyder cryf, ac yn y mwynhâd o'r tangnefedd y mae gwir grefydd yn ei roi i bawb o'i deiliaid yn amgylchiadau y marw. Gan y bwriedir ysgrifenu ei hanes lawer yn nelaethach eto, ni chwanegir ar hyn o bryd. J. H. SIR FRYCHEINIOG. Y Parch. David Davies, Trecastell, a'i tmadawiad a Chorff t Methodist- iaid.—Llythyr oddiwrth Mr. D. Davies at Oyfarfod Misol Sir Frycheiniog.—Anwyl Gyfeillion,—Y mae yn gwbl hysbys i chwi erbyn hyn, fy mod wedi ymadael a'ch cyf- undeb, ac ail ymuno a'r eglwys sefydledlg, oddi wrth ba un yr ymadawais er ys amryw flynyddau yn ol, a hyny o eisiau llwybr agored i fyned i'r weinidogaeth o fewn ei chyflìniau; ond erbyn heddyw ymddengys fod rhagluniaeth wedi agor y llwybr hwnw; o ganlyniad meddyliais mae fy nyled- swydd ydoedd cymeryd gafael yn y cyfleus- dra, tra yr ydoedd yn ymgynyg. ' Yr ydwyf yn teimlo yn dra diolchgar i chwi fel cyfundeb, am y drws agored a gefais yn eich plith, nid fel aelod gyffredyn yn unig, ond hefyd fel gweinidog yr ef- engyl; gan obeithio na fu'm llafur yn gwbl ofer, ond dan radd o fendith i achoa yr Arglwydd. Fe allai fod yr ysgogiad anie- gwyliadwy a gymerais wedu dolurio a