Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSOEFA. Ehip. OXVL] AWST, 1856. [Llyfr X. ŵflttjínta ö fnjiátinẁtL DIOGELWCH Y CRISTION. " Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yn nghysgod yr Hollalluog." Nid oes yr un teimlad yn fwy hyfryd gan ddyn na theinilad o berffaith ddio- gelwch, pan ar yr un pryd y mae yn nghanol dirfawr beryglon. Felly yr oedd Paul yn teimlo, ac yn perswadio ei gydfordeithwyr i fod yn gysurus, wedi pedwar ar ddeg o ddyddiau a nos- weithiau blinion mewn enbydrwydd am eu heinioes: " Yr awrhon yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus; canys ni bydd colled am einioes un o honoch, ond am y llong yn unig." Y dyn nad yw yn teimlo dim, nac ofn na chysur, yn y fath amgylchiad, sydd lai na dyn, ac megys yn gydstâd â'r anifail. Y dyn sydd yn teimlo cysur dychy- mygol yn y fath amgylchiad trwy bwyso ar obaith gwag a disail, sydd fath o hunanleiddiad, trwy ymddiried i ddio- gelwch ei sefyllfa, yn lle ffoi i fan mwy diogel. Eithr y dyn sydd wir ymwy- bodus fod ei breswylfan yn anorchfygol, uwchlaw cyrhaedd yr holl elfenau cryf- ion yn eu rhuthr mwyaf i'w niweidio, yw yr unig ŵr sydd yn mwynhâu teiml- ad gwir hyderus. Felly y mae yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf; " nid ysgogir ef byth ; nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd ddisigl yn ymddiried yn yr Arglwydd." Nid felly y mae pawb o'r saint. Y mae ì'hai o'r rhai hyn " trwy ofn marwolaeth tros eu holl fywyd dan gaethiwed;" o hyd yn gwaeddi ymhob ystorm, "0 feistr, darfu amdanom." Ymaedirfawrwahaniaeth rhwng bod yn y wir winwydden, ac aros ynddî. Rhaid trigo, neu breswylio, yn nirgelwch y Goruchaf, cyn aros yn gysurus yn nghysgod yr Hollalluog. Gellir siarad am hyn fel gwirionedd heb brawf o wirionedd y teimlad, a phregethu hyn i eraill fel rhan o'r ath- rawiaeth sydd yn ol duwioldeb hel> wybod am y cysur cryf sydd i'w fwyn- hâu trwy breswylio yn nirgelwch cysegr Duw. Y mae trigo, neu breswylio, yn arwyddo cartrefu, ymsefydlu, a gor- phwyso, trwy wneuthur rhyw un mau yn lle mwy arosol na phob man arall. Fel hyn y mae y gwir gristion wedi ei symud o'r crëadur, o hono ei hun, ac o bob ail achosion, i breswylio o ran ei ffydd, ei ymddiried, a'i ymorphwysiad, i'r " tŵr cadarn," ac i " gysgod y graig fawr." Yma y mae efe yn preswylio yn awr. Y mae ei symudiad i'r fan hon wedi bod iddo ef yn fendith nas medi- ddyweyd ei maint. Eto gorchest bar- hâus yw aros yn nghysgod yr Holl- alluog. Amcan yr ysgrif hon fydd dango.s cadernid ac addasrwydd Duw, yn ol ei drefn, i gredadyn artrefu ynddo, a'r dull y mae y cristion yn symud yma, ynghyda natur y cysgod y mae yn ei gael trwy aros yn Nuw. " Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. Preswyliaf yn dy babell byth; a'm hymddiried fydd dan orchudd ày adenyäd." Un o brif wirioneddau mawr y gau* yw, fod Duw yn noddfa ac yn breswylfa i'r saint. Buan y darfyddai am danynt oll oni bae hyn; ond yn y drigfan hon y maent oll yn berffaith ddiogel, ao y dylent fod yn berffaith gysurus. Ond rhaid cofio fod preswylio