Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. CXIX.] TACHWEDD, 1856. [Llyfr X. ŵarfjjata ii fnjjáLwtljaîî, GOFAL YR ARGLWYDD AM EI SAINT. Pregeth a draddodwyd yn Nghymdeithasfa Merthye Tydfil, Awst 4, 1842, GAN Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS RICHARD3, ABERGWAEN. (WEDI EI HYSGRIFENU WRTH WRANDAW.) 2 CRONICL xvi. 9 : " Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear i ddangos ei hun yn gryf gyda y rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef." Y meddwl a ddangosir yn y geiriau yw trefn Duw yn ymarddel â'i bobl. Nid yw yr Arglwydd yn ymweled â'i bobl ei hun ymhob duîl a modd ; mae gan- ddo drefn at hyny ; ac yn ol ei drefn yr ymwêl â hwy. Nid ä Duw drwch y blewyn allan o'i drefn i arddel neb. Ni wiw dysgwyl Duw atom dros ben ei drefn; ond yn ei drefn, ei lwybr, a'i ffordd y mae efe yn ymweled â'i bobl gyfammodol ei hun; a hyny yw y gwir- ionedd a ddangosir yn y geiriau hyn : " Y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear i'w ddangos ei hun yn gryf gyda y rhai sydd â'u calon yn ber- ffaith tuag ato ef." Nid oes i ni feddwl fod gan Dduw lygaid fel dyn; ond yr hyn a ddángosir yma yw perffeithiau dwyfol trwy gymhariaethau dynol. Wrth "lygaid yr Arglwydd" y mae i ni ddeall ei Hollwybodaeth; ac wrth ei fod "yn edrych ar yr holl ddaear," y mae i ni ddeall gorchwyliaeth Hollwy- bodaeth mewn cysylltiad â Hollalluog- rwydd a Hollbresennoldeb yn a thuag at y byd hwn. Hyn sydd wedi rhoddi bôd i bob bôd sydd mewn bod, a hyn hefyd sydd yn cynnal bôd ymhob bôd a gafodd fôd. Absennoldeb Duw oddi- wrth y grëadigaeth a fyddai yn ddinystr iddi; absennoldeb ei ly wyddiaeth mewn rhagluniaeth a ddymchwelai y cwbl mewn dyryswch ac annrhefn; ac absennoldeb Duw yn moddion gras yw y wae drymaf ar y byd o bob gwae. "Gwae hwynt pan ymadäwyf oddi- wrthynt." Fe gynnwysir geiriau y testun mewn —GWRTHDDRYCHAU— GORCHWYLIAETH —a Dyben. Y Gwrthddrychau yw, " y rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef." " Yr orchwyliaeth yw, " llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear." A'r dyben, yw, "i ddangos ei hun yn gryf gyda y rhai" hyny. I. Y Gwrthddrychau : "y rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef." Mae yn hyn dri peth,— 1. Y gwrthddrych: "y galon." 2. Yr egwyddor: " perôaith." 3. Y cyfeirìad: " tuag ato ef." 1. Y gwrthddrych yma yw y galon. Y galon yw y dyn—y sylwedd—^yr enaid. Fe gymerir y galon yn y Bibl am yr holl ddyn; a lle na byddo y galon, er fod yno bethau eraill, fe gyfrifir nad yw y äyn yno. Am y galon y mae Duw yn ymofyn. " Fy mab, moes i mi dy galon." Os nad ydyw wedi cael y galon, ni chafodd efe ddim. Os na roddasoch yma eich calonau iddo, ni roddasoch ddim iddo. Mae pob peth yn annerbyniol ganddo os na fydd y galon wedi ei rhoddi iddo. Pa le y mae eich calonau, boblî Pwy a bia dy h h