Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. XXVII.] MAWRTH, 1833. [Llyfr m. BYWGRAFPIAD. Y PARCHEDIG JOBN FLAYEL. Mae yn beth galarus nad oes gcnym nemawr o hanes nianwl am Mr. Flavel; heblaw am amgylehiadau nodedig ei oes. Gelür dilyn ei achau yn ol, cyn belled a dyddiau William y Conewerwr; canys un o'i hynafiaid ef oedd Flavel, y trydydd Prif Swyddog yr hwn a ddaeth drosodd gyda y Brenin William y pryd hwnw. Tad Mr. John Flavel oedd y Parchedig a'r duwiol Richard Flavel, yr hwn a fu gynt yn weinidog yr Efengyl yn Brooms- grove, Woreestershire, wedi hyny efe a sefydlodd yn Hasler; ac oddiyno efe a symmudodd i Willersly yn Gloucester- shire. Efe a arosodd yn y lle hwnw ac a fu yn llafurus a dinyd iawn yn y cyflawn- iad o'r swydd sanctaidd, byd y flwyddyn 1660, pryd y bu raid iddo roi ei le i fynu mewn canlyniad i wcithred o eiddo y Senedd, yr hon a wuued i alw yn ol, a sefydlu ycyfryw weiuidogion Eglwysig y rhai a droisid o'u lleoedd dan lywodraeth OHver Cromwell, yr hon weithred a gad- nmhawyd yn ddioed ar ddychweliad Charles yr ail i Lywodraeth Brydain. O hyny allan bu raid i Richard Flavel dreulio gweddill ei oes mewn cryn iselder, a phregethu yu achlysnrol, fel cyn- northwywr, mewn amryw fanau. Yr oedd yn llawer mwy o ofid i'wr feddsvl ef, ei fod yn cael ei gau allan o fod yn ddef- nyddiol yn Ngwinllan Crist, na'i fod yn colli ei le a'i fywioliaeth. Dy wedwyd am dano, gan y rhai oedd yn cyd-oesi âg ef, ei fod mor dduwiol, fel "na chlybuwyd erioed un ymadrodd llygredig yn dyfod allan o'i enau." Yn ei ddyddiau diweddaf, efe a aeth i Lundain ; ac yno yr oedd efe yn preswylio ynamser y Pla mawr, yn y flwyddyn 1665. Ac fe ymddengys mai o'r pla y bu efe a'i | wraig feirw. Gadawsant ddau o feibion i alaru ar eu hol, sef John a Phinehas, y ddau yn wcinidogion yr cfengyl. John Flavel, gwrthrych y Cofiant h\vn, a anwyd yn Broomsgrove, yn Woreester- shire. Am ei ddyddiau bureuol nid oes dim chwaneg o hysbysrwydd nag iddogael dygiad i fynu crefyddol gan ei dad, ac iddo gael ei egwyddori mewn elfeuau dysgcidiaethynyr Ysgolion Grammadegol yn ei gymmydogaeth. Mr. Flavel, wedi iddo gael ei barotoi yn yr ysgolion mewn dysgeidiaeth addas, a anfonwyd i Brif Athrofa. Rhydjchen, oddeutu y flwyddyn 1646. Yn yr amser y bu efe yn yr Athrofa hon, yr oedd yn rhaid ei fod yn cyfarfod á rhwystrau a phrofcdigaethau mawrion i'w feddwl, oherwydd y ddadl bwysfawr oedd rhwng Athrola Rhydychen a'r Scnedd y piyd hyny. Yn yr amser y carcharwyd Cliarles y Iaf. yn yr Isle of Wight, penderfynodd y Senedd chwilio i mewn i amgylchiadau yr Athrofa, ac i geisio gwellhau pethau os galleut. I'r dyben hwn anfonodd y Senedd ymwelwyr i edrych i mewn i'r achosion, a dodi dynion ar eu llw, fel y gallent wybod i sicrwydd pa effeithiau a adawsai y rhyfel gartrefol ar drigohon y ddinas hono, ac ar yr Athrofa o'i mewn. Amserau blinion iawn oedd y rhai hyn. Yn fuan wedi cymmeryd o Mr. J. Flavel y radd o Wyryf Celfyddydau {Bachelor of Arts) gwahoddwyd ef i fod yn weinidog cynnorthwyol i Mr. Walplate, o Diptford yn swydd Devon: nid ocdd ef y pryd hyn ond ieuanc. Yn fuan wredi cael prawf o'i dalentau ef, darfu i'r Dirprwywyr ei sefydluefi fod yn swydd DevoA. Ebrill 27, 1650.