Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. xlvii.] TACHWEDD, 1834. [Llyfr iv. NEWYDDION DA, Sef, Pregeth Mr. Walter Cradoc ar Marc xv\. 15. " Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur." Chwi a ellwch ddyall yn hawdd pwy a îefarodd y geiriau hyn, ac wrth bwy y cawsant eu llefaru. Yn y geiriau mae ein Harglwydd Iesu Grist, ar ol ei ad- gyfodiad, pan oedd ganddo bob awdurdod yn y nef ac ar yr ddaear wedi eu rhoddi iddo,yn anfon allan ei apostolion i breg- ethu, ac yn gorchymyn iddynt, 'Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr Efengy! i bob creadur.' Dyma oeddeu commissiwn presennol, sef myned a phregethu yr Efengjl. Yn wir hwy a gawsant gom- missiwn o'r blaen, eitlir nid oedd ond yn unig at yr Iuddewon ; ond yn awr yr oedd Crist wedi cyfodi oddi wrth y meirw, ac wedì derbyn pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear, y mae yn eu hanfon yn gwbl ac yn hollol, (í'el pe b'ai,) y mae yu rhoddi cyflawn a pherfl'aith gommissiwn iddynt, ' Ewch i'r holl fyd,aphregethwch yr Efengyl i bob creadur.' Cyn i mi ddyfod at y wers yr wyf yn meddwl sefyll arni, y mae dau o bethau yn y geiriau ag y mae yn rhaid eu hagor- yd, fel y galloch weled sylfaen y wers hon : Yn gyntaf, Beth a feddylir wrth Efeng- yl ? ' Ewch, a phregethwcb yr Efengyl.' Yna, Beth sydd i'w ddyall wrth y creadur ? ' Ewch, pregethwch yr Efeng yl i bob creadur.' Am y cyntaf, Beth a feddylir wrth Efengyl ? Ni safaf ar yr amrywiol ys- tyriaethau o hono, yn unig chwi a ellwch ddyall fod Efengyl yn iaith yr Ysgrythyr, ac hefyd yn mhlith y Paganiaid, yn cael ei gymmeryd am newyddion da, newydd- ìoa da yn gyffredinol; unrhyw newydd- ion da neu gennadwri o lawenydd a elwid Efengyl; felly mae y gair Groeg yn arwyddo j ond mewn ystyr bennodol yn yr Ysgrythyr fe'i cymmerir am y newyddion da hyny o ras ac iachawd- wriaeth trwy Iesu Grist: Ac felly yn yr ystyr yma yr ydym yn darllen am dano yn yr Hen üestament ac yn y Newydd. Yn yr Hen Destament chwi ellwch ddarllen yn Hebreaid 3, 4, fod yr Efengyl gan ein tadau yn gystal a ninnau. ünd, anwylyd, yr ydych i sylwi, er fod yr Efengyl gan ein tadau, hyny yw, y newyddion da o fywyd ac iachawdwriaeth trwy Iesu Grist, o Adda, o ddechreuad y byd; eto nid ydoedd ganddynt ond yn dywyll ac yn aneglur; ac yr oedd gan- ddynt yn gymmysgedig â llawer o ddeddf, â llawer o newyddion drwg : (fel y gallaf ddywedyd:) yr oedd ganddyntychydig u newyddion da gyd â llawer o rai drwg. Felly yr oedd gan Adda ychydig o ne- wyddion da,' Had y wraig a ysiga ben y sarph :' Ac yr oedd yno newyddion drwg hefyd, yr oedd y felldith ar y sarph, ar y wraig, ac ar y gwr; mae yn rhaid i'r wraig ddwyn plant mewn poen, a'r dyn fwyta ei fara trwy chwys ei wyneb. Ac felly yn yr holl Hen Destament, yr oedd ychydig o Efengyl yn y prophwyd- oliaethau, ac Efengyl yn yr aberthau, ac Efengyl yn y gweledigaethau, ond yr oedd ilawer o ddeddfyngymmysgedig â'r Efengyl hon ; yr oedd y naill yn llefaru pethau trist, fel yr oedd y llall yn llefaru pethau cysurus; canys chwi a wyddoch fod y ddeddf yn îlefaru melldith a dam- nedigaeth i'r rhai nad oedd yn mhob modd yn ei chadw. Ond yn y Testament Newydd, yn enwedig ar ol adgyfodiad Iesu Grist, pan aeth efe i fynu i'r nef/ oedd, yr ydym yn darllen fod yno Efeng-'í yl berffaith, neu newyddion da, a chen J nadwri lawen yn unig, canys yr oedd y