Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSOBFA. Rhif. ciii.] GORPHENHAF, 1839. [Llyfr IX. COFIANT Ám y diweddar Barch. John Price, Birchin House, Tref Eglwyst $c. (gynt Llandinam) Gweinidog yr Efengyl gyda'r Trefnyddion CaJfinaidd, yn Swydd Drefaldwyn; yr hwn a ymadawodd â'r bywyd hwn Mawrih 31, 1839, rhwng 31 a 32 oedran. " Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef: a choffadwriaeth y cyfi»' sydd yn fendigedig." Synedig a galarusydywgenyffeddwl f od enw y brawd Parchedig John Price i'w ysgrifena yn nghof-restr y meirw, —ond felly y mae. * Y mae yr hwn sydd a'i ffordd yn y môr, a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion, ac nid adwaenir ei ol,' yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun; ac y mae yn gweithredu llawer o bethau rhy an- hawdd i ni yn awr eu llawn ddirnad. ' Cymyiau a thywyllwch sydd o'i am- gylch ef; cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfaingc ef.' Ond ymostwng a thewi yw ein dyledswydd ni yn ngwyn- eb gorucbwyliaethau rhy dywyll i ni eu dirnad. Symud Gweinidog adref i'w orphwysfa dragywyddol yn mlodau ei ddyddiau, ac yn mlodau ei ddefnydd- ioldeb, «ydd oruchwyliaeth rhy dywyll i ni ddirnadeidybenion ; er hyny, cof- iwn, mai * cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl flŷrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.' Mab ydoedd John Price i Richard ac Ann Price, Cefncarnedd, plwyf Llan- dinam. Ganw^d ef Mai y lOfed, 1808. Yr oedd ei dad yn aelod eglwysig esmwyth a phrydferth gyda'r Trefn- yddion Calfinaidd, yn Llandinam; a chafodd John, gan hyny, ei ddwyn i fynu mewn mwynhad o freintiau cref- yddol o'i febyd; a'i ymarweddiad o'i febyd oecŴ ddiargyhoedd,—braidd y gellircael, wrth chwilio, nemawr o ym- ddygiadau pechadurus aml wg ynddo yn ei holl fywyd; er y byddai yn cydnabód ei bunan y penaf o bechaduriaid. Hudwyd ef unwaith gan ei frawd i anufuddhau i annogaeth ei dad, sef i omedd aros yn y Cyfarfod Eglwysig, yr hwn a gedwid y tro hwnw ar ol pre- geth, yrhyn a'i gofidioddynfawrlawer gwaith ar ol hyny, wrth adgofio y cyf- ryw ymddygiad. A dyma yr oll ag sydd yn wybodus i ni o'i bechodau gweithredol. Yr oedd yn ddywediad cyflYedta gan ei gyfeülion am dano, nad oedd ganddo ond un pechod gweith* redol i edifarhauo'i heiwydd. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod eg- lwysig yn Llandinam pan oedd rhwng 16 a 17 oed. Dechreuodd ar waith y Weinidogaeth yn y flwyddyn 1825, pan oedd rhwng 19 ac 20 oed. Yn mhen rhy w yspaid o amser ar ol marwolaeth ei dad, symudodd gyda'i fam i fyw i bentref a elwir Caersws, yn nghylch dwy fillür oddi wrth Landinam, a bu yn ddefnyddiol apharchusynyr Eglwys fechan sydd yn y pentref hwnw. Tua dechreu yr haf, yn y flwyddyn 1836, priododd âg Ann, merch Mn Daniel Jerman, Giyngwdan, Amaeth- wr parchus rhwng Tref Eglwys a Llan- idloes. Yr oedd yn aelod cymeradwy yn eglwys y Trefnyddion Calfinaiddyn Llanidloes er's amryw flynyádoedd. Yn Nghymdeithasfa y Bala, M«- hefin, 1837, neillduwyd ef, yn ol dewis- iad Henuriaid Siroedd Gwynedd, i holl waith y Weinidogaeth; sef i weinyddu y Sacramentau o Fedydd a Swper yr Arglwydd, yn nghyda phregethu yr efengyl. Yr oedd ei atebion yn ei neillduad yn ysgrythyrol, cadarn, a goleu, a tbra boddhaol i bawb ag oedd yn gwrando. Calanmai y flwyddyn 1838, symud- odd ef a'i wraig, a'u mab bychan i dyddyn a elwir Birchin House, gerllaw Tref Eglwys. Yn y gauaf diweddaf, yr oedd rbyw arwyddion o adfeiiiadyn ei iechyd, er nad oedd efe yn meddwl fod ei angeu mor agos. Bu yn preg- ethu dair gwaith y Sabbath olaf ag y bu efe byw. Bu yn y Drefnewydd ar ryw achosion amgylchiadol y dydd Mawrth cyn y boreu Sabbath y bu efe farw. Yr oedd golwg led wanaidd arno yno, ac er byny, nid oedd neb yn meddwl ei fod yn ymyl angeu; ond dywedai ef wrtû amryw o'i gyfeillion yno, ac wrth ddy- fod oddi yno, ei fod yn myned adrei i 23