Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSORFA. Rhip. CL.] j2^/- MEHEFIN, 1859. <L2-^^r "C1^7*11 xiil ŵirctjnŵan. NODIADAU 0 DDYDDLYFR FY NGHYFAILL. GAN Y PARCH. DAYID CHARLES, CAERFYRDDIN. Mai, 184—. Duv> yn sylwi ar wedd'i- <wyr. Y mae y rhai agos at Dduw ymhob oes yn weddîwyr taer dros eu cyd- wladwyr; ac y mae hyn yn ol ewyllys Duw gymaint, fel ag y gwna grybwyll- iadau am y cyfryw eiriol dros eraill ar ol llawer o ddyddiau. Gellir dywed- yd, "Ysgrifenwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron Ef" o barth pawb a wnaeth- ant, neu a wnânt, yn gyffelyb i'r Pen mawr ei hun—sef u eiriol dros y tros- eddwyr." "Pe safaì Moses a Samuel ger fy mron i," ebe yr Arglwydd mewn un man_; ac mewn Ue arall, "Pe byddai yn ei chanol y tri wŷr hyn, Noah, Dan- iel, a Job." "Moses a Samuel, Noah, Daniel, a Job !" pwy yw y rhai hyna? Hen bobl oedd ar y pryd wedi myned i ffordd yr holl ddaear er ys talm, oddi- gerth Daniel. Yr oedd Noah yn ei fedd er ys tua phymtheg cant o fiynyddau; Moses a Job ond odid tua mil; a Samuel ynghylch pum' caut, pan y coff- äwyd am danynt gan air yr Arglwydd wrth Jeremiah ac Ezeciel. Crybwyllir eu henwau, ar ol cy- maint o amser, am mai gweddi'wyr mawr oeddynt, a gweddiwyr dros y bobl. Diau i Noah weddio llawer ìawn, gyda phregethu cyfiawnder, tra yn darpar yr arch. Ocheneidiai yn aml oblegid yr anghrediniol a'r an- ufudd. Llawer saethweddi yn nghan- ol ei waith a ddyrchafodd ar eu rhan, Bef ar ran yr holl fyd oedd yn gorwedd mewn drygioni. Gan nad oedd na gwedd- 'io na phregethu Noah yn cynnyrchu ar- gyhoeddiad na dychweliad, gallasai dyb- ied mai oferedd ydoedd y ddau; ond y parchedig ofn a feddiannai ei fynwes a'i cynnaliodd yn ddiegwan o fiydd, gan roddi gogoniant i Dduw. Gallasai ei holl aneirif weddiau ymddangos i lygad ei reswm fel curo yr awyr y pryd hyny yn aml; ond dyma goffâd cym- eradwyol o honynt ar ol treigliad oes- oedd. Job, drachefn, a enwir, nid yn unig 0 herwydd uniondeb ei fuchedd a'i ddyoddefgarwch, ond ar gyfrif arall. Gwir, ni a glywsom am ei amynedd; ond nyni a glywsom hefyd mor ddyfal ac ymroddol y bu y patriarch hwn mewn ymbiliau ac erfyniau dros ei blant: ac oblegid bod ei weddi'au blaen- orol ger bron y Nefoedd fel arogldarth, a dyrchafiad ei ddwylaw fel yr offrwm prydnawnol, yr oedd ei gyfryngaeth a'i eiriolaeth yn anhebgorol yn wyneb cynneuad digofaint Duw yn erbyn Eli- phaz, Bildad, a Sophar, er eu gwared- iad hwy rhag Dwyfol gosb. Ac nid yw Duw yn anghofio ei waith a'i la- furus gariad yn yr ystyr yma, fel y gwelir nodiad arno ganrifoedd lawer ar 01 ei farwolaeth. Moses, eto, rhwng wyth a naw cant o fiynyddoedd wedi i Dduw ei gladdu, a dybir ganddo wrth ei hen waith yn dadl- eu am arbediad y genedl. " Pe safai Mo- ses" ger fy mron. Llawer gwaith y "safai" efe; a phan yr ymddangosai