Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSORFA. Rhip. CLUI.] MEDI, 1859. [Lltfb XIIL tatjjaìam. ATTALFEYDD AR BECHOD YN LLYWODRAETH DTJW. GAN Y PARCH. ROBERT ROBERTS, LLANRWST. Nid oes un pechod y dichon dyn fod yn euog o hono nad yw yn codi oddiar ry w duedd yn ei natur, neu ry w gyfadd- asrwydd yn ei feddwl i deimlo yn wyneb yr hyn a gynnygir i'w sylw, neu a osodir o'i flaen, a pha gyfaddasrwydd neu dueddiadau sydd wedi eu bwriadu gan y Crëawdwr wrth ei grëu i ddyben- ion daionus, ac i fod yn ddedwyddwch iddo. " Wele, da iawn ydoedd y dyn, fel pob crëadur arall a wnaethai Duw, o ran ei natur a'i gyflwr yn y sefyllfa y gosodwyd ef ynddi ar y cyntaf; ond fel y mae wedi gadael Duw, a llygredig- aeth yn Uywodraethu ei holl galon, y mae yn rhoddi y ffrwyn i'w flysiau, ac y ínae ei holl nwydau yn gweithredu mewn cyfeiriad sydd yn ddinystr iddo ei hun, yn gystal ag yn wrthryfel yn erbyn yr Hwn a'i gwnaeth. Fel y mae cysylltiad rhwng dyn â'r byd hwn a'i amgylchiadau, ac â'i gydgrëaduriaid, y mae yn derbyn dylanwad oddiwrthynt; a thra yr oedd ei galon yn uniawn gyda'r Arglwydd, yr oeddynt yn dded- wyddwch iddo, a thuedd ynddynt i'w gyffroi i addoli a gwasanaethu yr Ar- glwydd ei Wneuthurwr. Ond wedi ìddo fwrw ymaitL ofn Duw, a myned yn elyn iddo, y mae y galon lygredig yn defnyddio yr holl gysylltiadau hyn, a'r dylanwad y mae yn ei dderbyn oddi- wrthynt, yn gymhelliadau i bechu, a thrwy hyny wrthryfela yn erbyn Duw. A. chan ei fod yn agored fel hyn i'r pethau sydd o'i amgylch effeithio arno, a'i fod trwy bechu yn tynu euogrwydd ar ei gydwybod, nid oes dim yn fwy tu- eddol iddo na cheisio ymddyosg oddi- wrth ei gyfrifoldeb, a rhoddi y bai ar ei amgylchiadau, er mwyn cael ymwared o'r anesmwythdra sydd yn y fynwes; pryd mewn gwirionedd mai yn, y dyn y mae y drwg, ac nid tu allan iddo. Y mae yn wir fod pethau y tu allan iddo â chyfaddasrwydd ynddynt i gyffroi ei galon, onidê nis gallasent fod yn demt- asiynau iddo; ond ei lygredigaeth sydd yn peri fod rhai pethau yn demt- asiynau o gwbl, ac hefyd sydd yn peri fod parodrwydd mewn dyn i feithrin ac i gydffurfio â phethau eraill y mae tuedd naturiol yn ei gyfansoddiad atynt, i fesur tu hwnt i'r terfynau y maent wedi eu hordeinio gan Dduw. Y mae yn amlwg fod y pechadur, wrth geisio priodoli ei ddrwg i'r amgylchiad- au y mae ynddynt, yn y pen draw yn bwrw y bai ar Dduw fel yr achos o hono, trwy drefnu ei amgylchiadau yr hyn ydynt, heb ystyried fod ei am- gylchiadau y peth ydynt i fesur helaeth yn codi oddiar y cyfeiriad y mae ei galon ef ei hun wedi ei roddi i'w fywyd. Y mae efe yn fynych yn arwain ei hun- an i amgylchiadau naä oes neb yn gyf- rifol am danynt ond efe, ao nis gall ym- ddyosg oddiwrth yr euogrwydd pan y bydd holl gysyUtiadau ei fy wyd yn cael eu dwyn i oleuni. Wrth i ni edrych ar lywodraeth Duw, yr ydym yn canfod ei bod yn cael e| b b