Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CLYI.j RHAGFYR, 1859. [Llyfr XIII. ẅarfjmk&. DYN YN ORUCHWYLIWE DUW. Cofnodau o Bregeth a draddodwyd yn Nghymdeithasfa Dinbych, Ionawr 5, 1844, GAN Y PARCH. WILLIAM ROBERT3, AMLWCH. LüC xvi. 4: "Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y'm bwrier allan o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai." Y mab yr ymadroddion hyn ar yr olwg gyntaf yn yniddangos yn bur gyffredin; ond yn yr ystyr amcanedig gan ein Hiachawdwr, maent yn cynnwys golwg ar y pethau mwyaf pwysfawr. Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn eu llunio yn bwrpasol i osod allan i'w wrandäwyr y pethau teilyngaf o'u sylw. Y prif fceth sydd ynddynt yw dangos fod yn hanfodol i wir grefydd, ac yn beth sydd yn arglwyddiaethu ar ysbryd ei medd- iannydd, ofalu am ddedwyddwch erbyn tymmor dyfodol—profi mai yr hyn sydd yn boddio Duw fwyaf yw i ddyn ofalu am wynfydedigrwydd erbyn tra- gywyddoldeb. Nid oes modd gwasan- aethu Duw wrth ei fodd yn y byd hwn heb bryder yn y meddwl am fod yn ddedwydd mewn byd arall. Mae y Duw mawr yn edrych ar ddyn yn ddiffygiol er pob peth a allo wneyd ac a allo gael ar y ddaear hon, os bydd yn ddiofal am ei hapusrwydd ei hun mewn byd ar ol marw ac ar ol adgyfodi o'r bedd. Llefarodd yr Arglwydd Iesu y ddam- meg hon i gly w yr un bobl âg y llefar- asai wrthynt y tair dammeg yn y bennod o'r blaen. Y llygredigaeth yr oedd yn ei wrthwynebu a'i wrthsefyll £n y tair dammeg hyny oedd, eiddigedd unangyfiawn yn erbyn llesâd pobl eraill mewn pethau crefyddol. Mae Crist ynddynt yn dangos nad oedd achos na hawl gan ddyn i genfigenu yn erbyn ei gydgrëaduriaid, ac yn enwedig fod yr hwn sydd yn eiddigeddu yn erbyn dedwyddwch ysbrydol a thragy- wyddol ei gyd-ddyn, ei hunan yn annheilwng o fywyd tragywyddol. Y ddammeg hon, ymha un y mae geiriau y testyn, a ffurfiwyd gan Grist nid oddiar un hanes penodol mae yn debyg, ond fel math o fable; mae yn ffurfio peth a allasai ddygwydd yn naturiol, ac yn cyfyngu hyny i'r dybenion cref- yddol oedd mewn golwg ganddo yn ei addysg. Gallwn feddwl mai yr amcan mawr yn ngolwg Crist yn ffurfiad y ddammeg hon oedd ergydio yn erbyn cybydd-dod yr un dynion ag yr oedd eu grwgnachrwydd hunangyfiawn yn nôd y dammegion o'r blaen—y dynion a edliwient i ddysgyblion Crist fod eu Hathraw yn bwyta gyda phublicanod a phechaduriaid ; rhai ariangar a chy- byddlyd oeddynt. Mae y ddammeg yn dybenu mewn sylwadau sydd yn profi nad ä dynion aunhrugarog byth i'r nef. "Gwnewch i chwi^ gyfeillion o'r mammon anghyfiawn," neu o|r mammon niweìdiol, fel y darllenir gan rai beirniaid dysgedig—megys y gwnaethy goruchwyliwr drwg gyfeillion L 1