Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CLXIX.] IONAWR, 1861. [Llyfr XV. ^mtjpŵmt. ANSAWDD, GWERTHFAWROGRWYDD, A PHERYGLON ADFYWIAD CREFYDDOL. GAN Y PAECH. DAVID CHARLES, B.A., TREFECCA. Tüa dechreu y flwyddyn 1858, galwas- om sylw ein brodyr at agwedd farwaidd a dadfeiliol crefydd yn ein mysg; dan- gosasom y canlyniadau galarus o fod gweithrediadau yr Ysbryd yn cael eu nattal oddiwrth yr eglwys, a cheisiasom gyflroi ei meddwl puraidd i ymofyn am yr Ysbryd yn ei ddylanwadau achubol a bywhäol. Rhoddasom bwys neillduol y pryd hyny ar "Addewid yr Ysbryd," a galwasom yn daer ar eglwys Dduw drwy ein gwlad i ymdrechu mewn gweddi am "ymweliad drachefn trwy dyẃallt- iad o'r Ysbryd o'r uchelder." Ein hiaith ydoedd:—"Bydded i eglwys Dduwweddio yn ddibaid am dywalltiad o'r Ysbryd, ac fe ddygir hyny oddiamgyleh. Ymafler yn 'addewid yr YsbrydJ yr hon yw (addewid y Tad1—pwyser ar hono—dadleuer Jwno oflaen yr orsedd, a dysgwylier o ddifrif, yn daer, a diymorphwys, am y cyflawniad o honi yn nhywalltiad yr Ysbryd ar lbob cnawd.ì" Trwy drugaredd ein Duw, nid hir y bu, ar ol ysgrifenu y geiriau uchod, cyn i ysbryd gweddi ddisgyn mewn modd rhyfeddol ar ein gwlad yn gyflred- inol, a'r canlyniad fu, fel mae yn hys- bys, i'r byd Gristionogol erbyn hyn, Yr Adfywiad nerthol a gogoneddus ag sydd wedi bod yn achos cymaint o orfol- edd yn nghynnulleidfa y saint, trwy fod miloedd lawer o ddynion colledig wedi eu dwyn i "gymeryd gafael yn y bywyd tragywyddoL;'—"Sîon yn llawen fam plant,—a chyflTO drwy y teulu oll, o herwydd "gem hwn" a hwn; ie, a thyrfa liosoff o etifeddion bywyd, "yno." Am hyn olí, ni a ganwn, fel yr eglwys gynt, mewn ysbryd diolchgar a gostyng- edig, " Yr Arglwydd a wnaeth i ni beth- au mawrion; am hyny yr ydym ya. llawen." Meddyliem fod y rymmor yn awr yn amserol i wneuthur adolygiad o an- sawdd neu natur gioir Adfywiad Cref- yddol, a'r peryglon cysylltiedig âg ef; ac wrth hyn, daw gwerthfawrogrwydd y GWIR rhagor y ffug, i'r golwg, yr ydys yn gobeitnio, i'r fath raddcau, fel ag i beri i ni deimlö pwys gocheliadau rhag camgymeryd y naill am y Uall, a " thy- wyllu o'r aur coeth da." Cymhellir ni i wneyd hyn,— 1. O herwydd ei fod yn bwnc ag y mae eglwys Dduw, yn ein gwlad ni a gwledydd eraill, yn teimlo dyddordeb neillduol ynddo y dyddiau hyn. 2. Am ei fod yn bwnc ag y daw yr eglwys i deimlo mwy yn ei gylch eto. Fel ag yr ydyni yn agosâu at y dyddiau sydd mewn addewia, sef, hâf- ddydd dysglaer a hyfryd y Mil Blynydd- oedd, fe ddaw yr ymweMadau yn fyn- ychach ac yn fwy cyfrredinol; bydd y dylanwadau yn gryfach, ac adfywiadau Sx bethau o brofiad parhäus yn eglwys duw. Heblaw hyn, yn 3. Y mae o bwys i ni flurfio meddyl- iau cpwir am ymweliadau o'r natur ynia, yn gymaint ag y bydd ein hymddygiad tuag atynt yn sicr o effeithio yn fawr ar agwedd crefydd yn ein mysg. Ni a allwn redeg i ryw eithafion cnawdol—ni a allwn gamarwain ein cyd-ddynion— ni a allwn fod yn rhwystr ar y ffordd, pan y mae Duw yn gweitbio—neu, ni a