Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXXV.] MAI, 1862. [Llyfe XVI. %mtfyẁwx. CREFYDD YN EI GWREIDDYN, EI CHYNNYDD, A'I FFRWYTH. GAN Y PARCH. J. OGWEN JONES, B.A., LIVERPOOL. Galatiaid vi. 15: "Canys yn Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaed- iad, ond crëadur newydd." Galatiaid v. 6: "Canys yn Nghrist Iesn nid all enwaediad ddim, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad." 1 Corinthiaid vii. 19: " Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchymynion Duw." Y MAE yr adnodau uchod wedi eu hys- grifenu gan yr Apostol Paul mewn gwa- hanol gysylltiadau, ac i wahanol ddy- benion. Ÿ mae y gyntaf yn rheswm dros yr adnod sydd o'i blaen, yn yr hon y mae yr Apostol yn gwrthgýí'erbynu ei ymffrost ei hunan âg jTnfírost y gau athrawon. Yr oeddynt hwy yn cymhell y Galatiaid i gael eu henwaedu, fel y gorfoleddent yn eu cnawd; eithr, medd yr Apptol, "Na ato Duw i mi ymfl'rostio ond ýn nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i jni a minnau i'r byd. Canys yn Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddrtn, na dienwaediad, ond crëadur newydd." Yn ol y darlleniad goreu, dylai yr adnod ddiweddaf fod fel y can- lyn, " Canys yn Nghrist Iesu nid yw en- waediad ddim, na dienwaediad, ond crë- adur newydd." Grym y rheswm ydyw y buasai yn ffolineb iddo ef, a'i fod yn ffolineb iddynt hwy, orfoleddu neu ym- ffrostio yn yr enwaediad, gan nad ydyw yn Nghrist lesu yn ddim. Rhagoriaeth ei ymffrost ef ar yr eiddynt hwy, gan hyny, ydoedd ei fod ef, trwy Grist a'i groes, wedi marw i un byd, a chael bôd a bywyd mewn un arall llawer uwch a rhagorach, yr hwn a elwir ganddo yn grëadur neu grëadigaeth newydd. ^ Mae yr ail adnod yr un modd yn cael ei dwyn i mewn yn rheawm dros yr adnod sydd o'i blaen hithau. Yr oedd rhai o'r Galatiaid wedi cael eu denu gan y gau athrawon i " ymgyfiawnhâu yn y ddeddf," yr hyn a gynnwysai, yn ngolwg yr Apostol, eu bod wedi "myned yn ddifudd oddiwrth Grist." Canys dywed- asai o'r blaen, "Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi." A chynnwysai hefyd eu bod "wedi syrthio ymaith oddiwrth ras," canys dywedasai hefyd o'r blaen fod "yr hwn a enwaedir, yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf." Y mae yn sefyll ar dir dyledswydd ddeddf- ol, ac nid ar dir gras. Felly yn lle myned jonlaen, yr oeddynt yn rhwym o syrthio yn 61. A'r prawf o hyn ydyw, mai y credimoyr trwy ffydd yn yr Ys- bryd sydd yn cyrhaedd cyfìawnder, ac yn ymestyn mewn gobaith a dysgwyliad am ei lawn fwynhâd mewn bywyd: " Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn dysgwyl gobaith cyfìawnder." Y mae esbonwyr yn teimlo fod anhaws- der yn yr ymadroddion hyn, lle y mae yr Apostol yn edrych ar gyfiawnder fel peth i'w ddysgwyl a'i obeithio yn y ayfodoL ac nid fel y gosodir ef allan yn gyffredm ganddo fel peth sydd yn cy- meryd lle yn uniongyrchol, mewn can- lyniad i gredu yn Ngnrist. Nid oes dim anghysondeb yn y ddau olygiad. Canys y mae cyfiawnhâd drwy ffydd yn cael ei alw gan yr Apostol yn gyfiawnhâd byw-