Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. 520.] CHWEFROR, 1874. [Llyfr XL1V. Y DDIACONIAETH. GAN MR. ROBERT ROWLANDS, PORTMADOC. TR ERTHYGL GYNTAP. Nid oes yr im pwnc wedi achlysuro mwy o ymrafaelion ac ymraniadau yn yr Eglwys Gristionogol na'r pwnc o swyddogaeth a Uywodraeth eglwysig yn y naill wêdd neu y Uall arno. Ni bu, ac nid ydyw, nifer y rhai sydd yn gwadu ac yn gwrthod pob swyddogaeth a llywodraeth neillduol fel gosodiad Dwyfol, ond ychydig mewn rhifedi o'u cymharu â chorff proffeswyr Cristionog- aeth sydd yn dal allan ac yn credu i'r gwrthwyneb, sef fod llywodraeth a swyddogaeth yn hanfodol angenrheidiol i fodolaeth a chynnydd yr eglwys. Ond nid yw y dosbarth lliosog hwn, dra- chefn, yn gallu cyttuno â'u gilydd am natur y llywodraeth a'r swyddogaeth sydd yn perthyn iddi. Y mae un blaid grêf a dylanwadol o'r dosbarth hwn yn synio nad yw yr eglwys yn meddu unrhyw allu nac awdurdod o'i heiddo ei hun ar wahân i'r gallu a'r awdurdod wladoL Ac yn gyson â'r athrawiaeth yna, hònant mai hawlfraint y wladwriaeth, yn cael ei rheoli a'i llywodraethu gan y penadur, ydyw ffurfio ei deddfau a'i rheolau, yn gystal a gosod swyddogion arni. Oddiyma, drachefn, y cyfyd fel ffrwyth naturiol y syniad cyfeiliornus a dinystr- iol hwnw, fod ei gallu a'i Uywodraeth yn cymeryd gafael yn mhersonau a meddiannau y deiliaid fel aelodau o'r eglwys. Ni raid ond darllen yn ystyr- iol olygiadau Hooker, ac Esgob War- burton, ac eraill, ar y syniad hwn, na cnanfyddwn ynddynt ddadl gref dros êi wrthod fel un nad oes iddo yr un sail ysgrythyrol yn bodoli o gwbl.* Gall- esid dysgwyl yn rhesymol i'r meddwl diduedd ganfod yn eglur nad oes yn holl ddysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu ddim ag sydd yn eglurach na'r athraw- iaeth "nad yw ei freniniaeth ef o'r byd hwn," yn gystal ag mai nid egwyddor- ion llywodraethau gwlacìol yw egwydd- orion llywodraeth ei deyrnas. Fe'n * Syniad Hooker ydyw,—"That tlie same persons compose the Chureh and the Common- wealth of England unhersally ; the same subject is therefore intended under the respective names of the Church and tlie Commonwealth ; and it is thus variously named onlyinrespectofaccidents, or properties and actions which are different." He considered "that the Church and the Com- monwealth aie personally one Society—That in this Society considered as Church the King is the highest un-commanded officer, that his chief ecclesiastical powers are in right of his headships, the right of calling or dìssolving the greater assemblies, that of assent to or dissent from all Church ordinances, the advancementof prelates," &c, &c—Esgob Warburton a ddywed,—"Civil Society, being defective iu control of motives, and the sanction of rewards, has, in all ages, called in the aid of religion to supply the want; the State contemplates for its end thebody and its interests; has for its means, for its gene'ral subject-matter utility. The Church is a religious Society of distinct origin; ha\nng for its ends the salvation of souls, and for its subject-matter truth. Though seperate, these Societies would not interfere because of their different provinces, but the State having needs as above stated, and the Church wanting protection against violence, they have such reason for a free and voluntary connection. Accordingly they have united, and the condition for the union are that the Church. secure free maintainance for the Clergy, and a share for her security in the legislative body and co-actire power to be nsed in her Spiritual Courta."—Ymhellach dywed efe, "If there be more than one such religious Society or Church, the State is to contract with the largest, to which. will naturally belong the greatest share of poli- tical influence."