Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSOEFA. Rhip. 523.] MAI, 1874. [Llyfr XL1Y. UN MLYNEDD AR BYMTHEG O WEDDIO. GAN Y PARCH. THOMAS LEVI. Cepais y pleser yn ddiweddar o dalu ymweliad â Chyfarfod Gweddio Fulton Street, New York, yr hwn sydd wedi ei gynnal bob dydd oddigerth y sabboth, am fwy nag un mlynedd ar bymtheg, a'r sôn am dano wedi myned dros yr holl fyd. Bydd i'r Cyfarfod Gweddi hwn le mawr yn hanes llwyddiant Cristion- ogaeth ar Gyfandir America, yn gystal â gwledydd eraill ydynt wedi derbyn mesur mwy neu lai o'r dylanwad. Mae gweddio yn rhagorfraint uchel, ac yn offerynoliaeth pwysig perthynol i Eglwys Dduw ar y ddaear. Ysbryd gwedäi yw rhagflaenydd cyffredin y diwygiadau crefyddol, yn gystal a'r moddion i'w cynnyrchu a'u iledaenu. Mae yr ysbryd hwn yn ffỳnu mewn parthau o'n gwlad y dyddiau hyn, ac effeithiau mawrion yn canlym Mae pob moddion a gynnyrcha ysbryd gweddio mewn person, neu mewn eglwys, yn foddion bendithiol.' Dylem ninnau wneyd ein goreu i gynnyrchu • mwy o ysbryd gweddìo yn ein heglwysi; dylifai hyny yn fendith i'n holl sefydl- iadau. Gyda'r amcan hwn mewn gòlwg y cymerir y pin i ysgrifenu y llinellau canlynol. Mae Fulton Street yn gorwedd yn nghanolparthmasnacholdinas fawrNew York, yr hon sy dd yn cy nnwys dros fìliwn o boblogaeth; ac y mae Brooklyn am yr afon â hi, oddeutu hanner mamt New York—a'r drydedd o ran maint yn holl America. Ýn yr ystrỳd hon, mewn eglwys Is-Ellmynaidd ëang, y cynnelir y cyfarfod hwn, Aeth fy nghyfaill a minnau i mewn ychydig fynydau cyn dechreu y cyfarfod, ac eisteddasom mewn sêdd y tu dehau i'r pulpud. Yr oedd arweinydd y cyfarfod yn eistedd mewn cadair dan y pulpud, a bwrdd o'i flaen, a llyfr hymnau yn ei law. Gweinidog canol oed o'r ddinas- ydoedd. Dywedodd fy nghyfaill, "A welwch chwi y dyn penllwyd, tâl, teneu, siriol acw, sydd yn eistedd y tu aswy i'r arweinydd ì Dyna y gŵr a fu yn offeryn i sefydlu y cyfarfod hwn. Efe sydd yn arwain y cânu. Rhaid i ni gael ysgwyd llaw âg ef ar y diwedd." Yr oedd y gŵr hwn yn gristion deallgar a zelog, ac yn 1857 wedi ei benodi yn genadwr trefol. Wrth ddyf- eisio pa fodd i ddwyn gwirionedd yr efengyl at feddyliau y miloedd, dywecl- odd wrtho ei hun un diwrnod,." Paham nad ellid cael Cyfarfod Gweddio am awr yn nghanol y bobl yma, a rhoddi ar ddeall iddynt y gallant droi i mewn am ddeg neu ugain mynyd, a myned allan, os na bydd yn gyflëus iddynt aroa hyd y diwedd, a'i ddwyn ymlaen yn hollol anenwadoll y gweddiau i fod yn fỳr—y cânu yn fỳr—yr anerchiadau yn fỳr—a'r darllen yn fỳr—oll yn cyf- ateb i gyfarfod bỳr o un awr." Nid oedd gan y dyn yr un syniad am yr hyn oedd ar ddygwydd, er ei fod yn meddwl fel hyn; ond yr oedd yn offeryn yn llaw Bhagluniaeth raslawn y nefoedd i sefydlu moddion oedd i ddwyn bendithion fyrdd i America a'r byd. Cadwyd y cyfarfod cyntaf, Medi 23ain, 1857, mewn ystafell berthynol i'r eglwys a nodwyd. Bu y cenadwr yno am hanner awr wrtho ei hun, mewn gweddi ddystaw. O'r diwedd, wele drwst traed yn dringo y grisiau