Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. BmF. 527.] MEDI, 1874. [Llyfr XL1V. Y CYNGHOR A DRADDODWYD YN NGHYFARFOD YR ORDEINIO YN NGHYMDEITHASFA LLANRWST, MEHEFIN, 1874. GAN Y PARCH. EMEYS EYANS. Ni a welwn fod eryn lawer o ffurf gyda hyn; ac y mae yn anghenrheidiol am hyny, i'r dyben o roddi gwêdd neu olwg gymhwys ar beth mor bwysig â gospd dynion yn gyfiawn yn y weinid- ogaeth. Y rhan sydd wedi ei gosod i mi i'w chyflawni gyda hyn, fel yr ydych yn gwybod, ydyw rhoddi gair o gynghor i chwi, fy mrodyr, sydd yn awr wedi eich ordeinio. Nid wyf yn fweled ynof nemawr o gymhwysder at yn ychwaith, heblaw fy mod wedi myned i dipyn o oed; ac y mae yn ddigon chwîtn genyf hyny hefyd. Ni welsoch. chwi erioed mor fuan y mae dyn yn myned i oed, megys heb yn wybod iddo ei hunan. Yr ydwyf yn addef ar yr un pryd y dylasai fod ynof gymhwysder ar gyfnfon eraill hefyd; ond yr wyf yn gobeithio, pa fodd bynag, y cyd-ddygwch chwi â mi. Y mae yn naturiol iawn, a gweddus, i rai mewn oed fod yn bur ymarferol gyda phobpeth. I ddynion ieuainc y mae cymeryd rhyw bwnc i fyny i'w diîn a'i drafod yn beth prîodol ac addas iawn; a pheth hynod o ddymunol ydyw gweled dyn ieuanc yn ymdrechu, yn ymegn'io, yn rhoddi ei alluoedd medd- yliol ar waith hyd eu heithaf gyda ihyw fater, os bydd ef yn gallu meistroli ei fater, ac nid ei fater yn ei feistroli ef. Ond prin y mae yn weddus i ddynion ieuainc fod yn ymarferol iawn, oblegid y maent felly yn myned i edrych yn rhy debyg i rai oedranus; ac nid da y mae sylw felly yn taro, a wneit weitliiau gyda Rolwg ai ambell ddyn ieuanc : " Y mae efe fel hen ŵr gyda phobpeth." Ond peth ymarferol ydyw cynghor i fod, pwy bynag fydd yn ei roddi. Y cynllun goreu o gynghor i weinid- ogion ieuainc yr efengyl, ac o bob oed, yn wir, ac o'r dull o'i roddi hefyd, ydyw epistolau Paul at Timotheus, ynghyda'i epistol at Titus. Y mae yn beth tarawiadol iawn, a thra theilwng o sylw, y serchogrwydd mawr oedd yn- ddynt tuag at eu gilydd. Y mae yr Apostol yn galw sylw y naill o'r dyn- ion ieuainc hyn ei fab anwyl, a'i fab naturiol yn y ffydd, a'r llall, ei íab naturiol yn ol y ffydd gyffredinoL Yr oedd yr Apostol yn ddiau yn edrych arnynt ac yn teimlo tuag atynt fel ei feibion, a hwythau yn edrych amo yntau, ac yn teimlo tuag ato, fel eu tad. Peth dymunol a phrydferth iawn ydyw fod y serchogrwydd mwyaf bob amser rhwng gweinidogion yr efengyl o bob oedran â'u gilydd ; ac yr wyf yn gobeîthio fod mesur helaeth o hyh yn ein plìth -ninnau. Y mae y geiriau yr oeddwn i wedi bod yn meddwl am danynt gyda gplwg ar y gorchwyl pwysig sydd genyf i'w gynawni yn bresennol yn 2 Timotheus iv. 5—8 : " Eithr gwylia di yonhob peth ; dyoddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth. Canys myfí yr awrhon a aberthir, aç arnser fy ymddattodiad i a nesäodd. Mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ilydd. 0 hyn allan, rhoddwyd coron »0