Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. 528.] HYDREF, 1874. [Llyfr XLIV. CENADWR DROS GRIST. CYNGHOR A DRADDODWYD YN Y CYFARFOD ORDEINIÔ' YN NGHYMDEITHASFA PONTRHYDFENDIGAID, AW8T 12, 1874. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABERTAWE. Y MAE Duw wedi ein cymmodi ni âg ef ei hun trwy Iesu Grist; ae nid hyny yn unig, ond y mae hefyd wedi rhoddi i ni weinidogaeth y cymmod ; a hyn y w y weinidogaeth hono : " Bod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymmod. Am hyny," am ein bod wedi ein cym- modi ein hunain, ac wedi derbyn oddi- wrtho ef weinidogaeth y cymmod tuag at eraill, "am hyny, yr ydym ni yn genadau dios Grist, megys pe byddai Duw yn deisyf arnoch trẅom ni; yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder ehwi â Duw." Dyna y lle yn yr eglwys yr oedd yr Apostol yn ei hawüo iddo ei hun. Fel y cyfryw, yr oedd yn ewyllysio i ddynion edrych arno ac ymddwyn tuag ato. Y mae nifer bur liíosog o hónom ni sydd yma yn hawlio yr un safle—yn dywedyd mewn effaith fel y dywedai yr Apostol, " Yr ydym ni yn genadau dros Grist," ac yr ydym yn cael ein cydnabod felly gan rai eraill. A'r peth sydd yn cymeryd lle yma yn awr yw hyn : y mae rhan Ued bwysig o'r Eglwys Grist ionogol wedi ymgasglu, ac niewn modd difriíbl yn eicli cyduabod chwi, fy mrodyr, fel cenadau dros Grist. Nid eich gwneuthur yn genadau yw anican y cyfarfod hwn, ac nid rhoddi i chwi awdurdod i fod yn gen- adau, ac nid cyfranu i chwi chwaith y doniau a'r grasau sydd yn anghen- rheidiol er eich galluogi i wneuthur yn effeithiol waith cenadau. Y mae hyny oll yn fwy nag y gall un dyn rja thyrfa o ddynion ei wneuthur. Yr hyn yr ydym ni yn ei wneuthur yw cydnabod mewn modd difrifol, oddiar yr hyn a wyddom am danoch, ein bod yn barnu yn gydwybodol eich bod wedi derbyn y cyfryw awdurdod a'r cyfryw gy- mhwysderau a doniau oddiwrth yr Arglwydd ei hun. Yr ydym yn dy- wedyd wrth yr eglwys ac wrth y byd, Ein barn gydwybodol ni am y brodyr yma yw, bod Duw wedi eu cymmodi âg ef ei hun yn Nghrist, a'i fod hefyd wedi rhoddi iddynt weinidogaeth y cymmod, wedi gosod ymhob un o honynt air y cymmod; a chan hyny yr ydym yn beiddio yn y modd cyhoedd- us a difrifol yma eu cydnabod fel cen- adau dros Grist. Y mae hyn yn anghenrheidiol, fy mrodyr, er rhoddi i chwi lwybr agored yn y cylch ymha un y byddwch yn llafurio; ond y mae mwy, a llawer mwy, yn anghenrheidiol tuag. at sefydlu eich cymeriad fel gweinidogion Crist, a gwneuthur eich gweinidogaeth yn effeithiol tuag at yr eglwys a thuag at y byd. Bydded i ni ac i chwithau gydystyried pa beth yr ydym yn awr yn ei wneuthur. Y mae y byd wedî gwrthryfela yn erbyn Duw. Y mae miliynau yu parhâu yn eu gwrthryfel hyd heddyw, ac yn 6tt mysg j mae llawer o'n cymydogion, ein cyfeillion,