Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. 529.] TACHWEDD, 1874. [Llyfb XL1V. CYNGHOR A DRADDODWYD I F7FYRWYR ATHROFA TREFECCA, YN MEHEFIN, 1874. GAN Y PARCH. JOHN DAYIES, PENFFORDD, SIR BENFRO. Anwyl Gyfeillion,—Gyda theirnlad o hwyrfrydigrwydd yr ydwyf wedi ym- gymeryd â'r gwaith hwn oddiar y de- chreu; a thêg y w i mi ddyweyd fel un rheswm am anmherffeithrwydd yr hyn a draethaf, fod hyn wedi bod mor bell y gwirionedd fel y penderfynais, hyd yn ddiweddar iawn, i beidio dyfod yma o gwbl; ac felly y darfu i mi esgeuluso yn hollol ymbarotöi i gyf- lawni y gwaith hyd yr awr olaf. A than argraff o'r un teimladau hwyr- írydig a digalon, o herwydd ymwybydd- iaeth o'm hanghymhwysder o ran oedran a phrofiad i gyflawni gorchwyl o'r natur hwD, yr wyf yn cyfodi i fyny yn bresennol. Modd bynag, gan fod. îiyn wedi dygwydd i'm rhan, ceisiaf wneyd oreu y medraf o hóno dan yr •amgylchiadau. Wrthych chwi, myfyrwyr yr Athrofa, dymunaf ddyweyd ychydig fel dynion yn bregethwyr ieuainc, fel efrydwyr, a gair ymhellach wrthych mewn perth- ynas uniongyrchol â'ch pregethu. Fy anwyl frodyr cristionogol, dym- unaf draethu gair wrthych ymlaenaf, fel dynion ieuainc o bregethwyr. Byddwch yn ddynion, yn wỳr, ymhob peth, ac nid yn blantos a merchedaidd. A thuag at i chwi fod yn ddynion yn yr ystyr yma, rhaid i chwi fod yn ddynion crefyddol, nid mewn enw yn unig, ond hefyd mewn Surdeb a gwirionedd. Nid yw dyn yn dyn yn ystyr uchaf y gair, heb ei fod yn ddyn grasol; rhyw anifail o ddyn, rhy w ddarn o grëadigaeth anmherffaith ydyw. Ac felly y darllena rhai y geir- iau hyny, "Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchymyn- ion, canys hyn yw*r holl ddyn." Ac os gadäẁn allan y gair dyled, a osodwyd i mewn gan y cyfieithwyr, dyna yw y meddwl yn y geiriau. Ofni Duw a chadw ei orchymynion, sydd yn gwneyd dyn yn ddyn—yn grëadur cyflawn. Teml yn ei ruins, planigyn heb fywyd ynddo, nefoedd heb haul na sêr ynddi, yw dyn heb ei fod yn ofni Duw a chadw ei orchymynion Ef. Nid ydyw dyn yn foneddwr yn ystyr uchaf y gair, heb ei fod yn gristion mewn gwirion- edd. " A christian," ebai yr Arch- ddiacon Hare, "is God Almighty's gentleman." Felly, ni byddwch chwi- thau yn foneddigion Duw, eithr bon- eddigion y diafol a fyddwch, heb fod yn ddynion duwiol a sanctaidd. Ond gadäwn hyn yn y wêdd yna, gyda rhyw grybwylliad fel hyn wrth týned heibio, gan roddi i chwi, fel pregethwyr ieuainc, y credyd eicb bod o ddifrif gyda y mater ollbwysig hwn. Ond beth bynag, ewyllysiwn eich. annog i fod yn ddigon o ddynion i ymgadw oddiwrth ryw bethau a allant fod yn brofedigaeth i ddynion ieuainc crefyddol, i'e, i bregethwyr ieuainc. " Pa bethau bynag sydd wir," medd yr Apostol Paul, "pa bethau bynag sydd onest," sef, anrhydeddus a pharched- ig; "pa bethau bynag sydd gyfiawn, pur, hawddgar, canmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clôd, meddyliwch am y pethau hyn; y pethau íí i