Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Hhif. xlix.] IONAWR, 183ô. [Llyfr v. NEWYDDION DA, Sef, Pregeth Mr. Walter Cradoc ar Marc xvi. 15. " Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewcb i'r holl fyd, a phregethwch yr Efengyl ibob creadur." f Parhad tu Mae yr Efengyl yn mhellach yn dywed- yd wrthych, er ychwaneg o foddlonrwydd i chwi, na esyd yr Aglwyddarnochuwch- law yr hyn a alloch ei ddwyn. Ac efe a fydd jn y cystudd gyd â chwi, yn y dwfr ac yn y tân; fe fydd yr Arglwydd Iesu gyd â chwi yno, ac mewn amser dyìadwy efe a wna ffordd i chwi ddyfod allan. Anwylyd, rhoddwch y cwbl ynghyd mae yr Efengyl yn ei lefaru am gystuddiau a dioddefiadau, ac eglurwch hwynt ynghyd, a chewch weled nad oes dim yn y cw bl ond newyddion llawen a da. Ië; ond, medd un arali, nid yw yr Efengyl (os Efengyl yw yr hyn yr ym ni yn arfer ei glywed gan ein gweinidogion) yn newyddion da, canys mae ein gwein- idogion ni yn pregethu yn erbyn medd- won, a thyngwyr, a plmtteinwyr; a phan fyddwyf fi yn rliegu, mae y gweinidog yn dweud na chaf fi byth fyned i'r nefoedd ; ac mae efe yn dywedyd fod yn rhaid i'r Efengyl gael dyn i adael ei bechodan ac edifarhan, a'r cyffelyb; nid ydyw hyn yn newyddion da; mae y gwna Duw fy achub i yn newydd da, ond nid newydd da ydyw fod yn rhaid i mi adael fy mhechodau a'r holl ffyrdd o bleserau yr wyf ynddynt. Y mae yn newydd da fod yr Efengyl am i mi gael fy achub, ond nid yw yn newydd da fod yr Efengyl am fy nghael i yn Buritan, a fy mhuro a'm glanhau oddi wrtli fy mhechodau. Att Mewn perthynas i hyn yna, mae yr Efengyl yn dywedyd fod yn rhaid i feddwon adael eu meddwdod, athyngwyr adael eu tyngu ; ac mae yr Efengyl yn galw pob dyn i edifeirwch am eu holl bechodau, eto, er hyny, nid ydy w yn ne- wyddion drwg. Yn gyntaf, Cymnierweh reswm Crist dal. 357.) (Mat. ô.) 'Os dy lygad dehau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt; os dy law ddehau a'th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt; hyny yw, fel mae rhai yn ei ddehongli, mae rhai pechodau ag ydynt mor hyfryd à'r líygad dê, ac mor ddefnyddiol a'r fraich ddê, ae fe fyddai yn well i ti eu tori hwýnt ymaith : Pa'm hyny ? 'Gwell yw myned i'r nefoedd yn un-Uygeidiog, nag â dau lygad genyt fyned i uffern; gwell yw myned i'r nefoedd yn anafus, nag â dwy law i ufferti.' Onid newydd da ydyw pan ddysgir dyn i wneuthur baryain dda ? Onid newydd daydyw pan maeyr Efeug- yl yn dweud i ddyn fod yn rhaid iddo daflu ymaith ei bechodau ? ac ai nid gweli ydyw croesi ei Imnan ychydig yn ei chwantau, a myned i'r nefoedd, na myned gyd â'i chwantau, a'i gorph, a'i enaid, a'r cwbl i uflern ? Ai nid newydd da ydyw,pan fo tý rhyw un ar dân, os bydd i un ddyfod a dangos iddo pa fodd i achub darn? Y mae yn well nag i'r cwbl losgi. Yn awr mae yr Efengyl yn dysgu i chwi adael pechod, ac mae yn newydd da . Pa fodd ? Mi a ddy wedaf i chwi; o herwydd pan mae yr Efengyl yn peri i ti adael peehod, mae hi yn rhod<Ii natur newydd ynol ti ag sydd yn wrthwyneb i bechod, fei ag i gasâu pechod yn fwy nag uffern a'r diafol eu hunain; ac yna os bydd Duw yn peri i ti adaei dy bech- odau mae efy newydd goreu yn y byd. Fel er esampl, mae llawer o wyr a gwrag- edd, yr wyf yn credu,yma, pe dywedaiyr Arglwydd wrthynt, fel y dywedodd wrth Solomon, Mi a roddaf iti beth bỳnnag a ofynech yn y nefoedd neu ary ddaear; mae rbai ya y lle hwn a ddywedent, O