Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

r BRYSORFA. ÍÌHIF. LVI!I.] HYDREF 183 5 [Llyfr v. CREFYDD A GWYBODAETH GELFYDDYDAWL, ~*Hí~4<4~" Mewn perthynas ì grefydd, mae dynolryw ymhob oes o'r byd wedi cyfeiliorni yn ddirfawr, ar y naill law a'r llall. Mae rhai yn rhoi gormod o bwys ar ymdrech y galìuoedd dynoì, gan farnu fod dyn, drwy oleuni rheswm, yn abl i chwilio allan wir ddoethineb a dedwyddwch ;— ac y mae y rhan fwyaf o grefyddwyr, yr ochr arall, yn tueddu i farnu fod gwybod- aeth gelfyddydawl yn hoilol ddiies, a hyny yn fynych cyn belled ag i'w llwyr esgeuluso a'i dirmygu. Mac y ddwy wahanol farn hyn yn ynfyd ac yn an- naturiol. Canys y mae yr hwn sy'n dyrchafu rheswm dynol, i fod yn unig arweinydd sicr at ddoethineb a dedwyddwch, yn anghofio fod dyn, yn ei gyflwr presennol, yn greadur llygredig, ac felly yn agored i gyfeiliorni; a bod pob un a adawyd yn hollol yn llaw rheswm anianol, ymhob oes, wedi dyfod yn fyr o gyrhaeddyd y gwrthddrychau dymunedig. Canys fe adawyd y rhan fwyaf o drigolion y byd am 5,800 o flynyddoedd yn llwyr i ar- weiniad eu galluoedd dynol, i ymgeisio ymbalfalu eu ffordd i Deml Gwybodaeth, a phyrth Anfarwoldeb; ond beth fu y canlyniad o hyn ? Yn lle cyrhaeddyd gwybodaeth gywir o Awdẅr mawr eu hanfodau, ac o natur y pareh a'r anrhyd- edd sydd yn ddyledus i'w fawredd, ' Ofer fuont yn eu rhesymau, a'u caion anneall- us hwynt a dywyliwyd. Pan djbient eu bod yn ddoethion hwy a aethant yn ffyliaid; ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw, i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ac ymlusgiaid.' Yn lle cyrhaeddyd golygiadau cywir ar egwydd- orion ymddygiad moesol, ac ymddwyn yn ol tragywyddol reolau uniondeb, hwy ddangosasant ffrwythau y nwydau mwy af dieílig, ac a lanwasant y ddaear â thrais ac â galanastra dychrjmllyd ; fel y mae hanes y byd yn gosod o'n blaen, nemawr lai na rhesau o adroddiadau am wrthryfel, lladd, a dyfetha, y naill genedl yn erbjn y lla.ll, ymhlith holl dylwyth- au'r ddaear. Dyroa fel y bn, nid yn unig ymysg ychydig o lwythau parthau Affrica, ar wastadedd Tartary, ac ánial diroedd America, ond hyd yn nod ymhlith y cen- hedloedd y rhai a godwyd uwc.haf mewn gwareiddiad, dysg, a chelfyddydau. Yr hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid, y rhai a ymffrostient gymmaint yn eu gwybodaeth am Pbilosophyddiaeth,a'ucynnydd mewn celfyddydau, hwy gofleidient y dychym. ygion ft'olaf, mwyaf disail, ae annheílwng, am Wrthryeh addoliadDwyfol, amdrefn- iadau erefydd, a seí'yllfa dragywyddol dyn, ag oedd bossibl i ddyn feddwl am danynt. 11 wy a addolasant ìu o dduwiau y rhai ' a hynodwyd drwy amviredd, twyll, anghyfiawnder, celwydd, trythyll- wch, dichell, ymddial, llofruddiaeth, a phob math o gamwri a ddichon ddarost- wng y meddwl dynol, yn lle aberthu teyrnged o ymostyngiad rhesymol i'r Goruchaf Dduw, Uuniwr a llywodraethwr 2 P