Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

îllíìF LX.] RH AGF YR, 1835. [Llyfr y. OEMÄ1T DTrWISTYDDOÎ.. PREGETHU YR EFENGYL. Pa fath bynag fyddo cymeriad y pechadur, pa un ai tebyg i'r Groegwr dysgedig, ai i'r Pagan barbaraidd, ynte yr Iuddew hunan-gyfiawn, mae yr efengyl i'w phreg- ethu i bob creadur, Marc 16, 15. Mae Crist wedi ei groeshoelio, fel yrunig enw 0 dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dyn- ion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yngadwedig, i'w ddal allan, yngoludoedd ei ras, a gogoniant ei gyfiawnder, fel unig noddfa pechadur. Act 4. 12. 1 Cor. 1. 23. Gwirionedd ydyw hwn sydd yn gwneu- thur i fynu wir hanfod yr efengyl : ac y mae peidio a r'ho'i y l!e blaenaf iddo yn ein pregethau, mor afresymol a phe byddai i athronydd areithio ar natur a phriodol- iaethau goleuni, heb unwaith sylwi ar y goleu-gorph mawr oddiwrth ba un y mae y goiemii yn tarddu, sef yr haul. Mae pregethu eyí'undraeth athrawiaeth- 01 heb duedd ynddi i gynnyrchu ffrWytb.au cyôawnder, yn arwain i benrhyddid ffi- aidd. Ac y mae mynyeh gymhell dyled- swyddau moesol ar wahan oddiwrlh fîydd y'Nghrist, oddiwrth ba un yn unig y tardd eu gwir ragoroldeb yngolwg Duw, (Heb. 11. 6.) yn baganiaeth wedi ei ddadlenu. A'r llwybr canol rhwng y ddau eithafîon peryglus hyn, yw Ilwybr gwirionedd a di'ogelwch.—Ricfiard de Courey. Gwafth gweinidog yr efeniryl yw preg- ethu yr efengyl, neu ddal i fynu rad ras Duw trwy Iesu Grist, fel unig ffordd iachawdwriaeth i bechadur. Ac os na bydd hyn yn brifdestyn ein gweinidog- aeth, gwell fuasai i ni fod yn rhyw bethyn hytrach na bod yn bregethwyr. ' Gwrae fydd i ni oni phregethwn yr efèngyl.' Y gweinidog sydd yn lionni gwasgu crefydd ymarferol ar ei wrandawyr, ac yn esgeu- luso ei hegwyddorion pwysig, sydd yn lla- furio megys yn y tân. Gall argymell dy- ledswydd nes y bydd dyledswydd yn rhewi ar ei wefusau. Ond ni bydd ei wranda- wyr, nac yntau, yn gofalu fawr am dani. Ac etto, os wrth bregethu yr efengyl y meddylir, sefyll ar fendithion a rhagor- freintiau crefydd yn unig, ac esgeuluso cymelliadau, galwadau, a rhybuddion; digon yw dywedyd, mai nid hyny oedd arfer Crist a'i apostolion. Addefir gan bawb eu bod hwy yn pregethu yr efengyl: etto yr oeddynt yn rhybuddio,yn cyngori, ac yn erfyn ar bechaduriaid i 'edifarhau a cbredu,' i ' gredu tra yr oedd y goleuni ganddynt,' i ' lafurio nid ara y bwyd a dderfydd, ond am y bwyd a bery i fywyd tragywyddol.' i ' edifarhau a chredu fel y dilëid eu pechodau,' i 'ddy- fod i swpper mawr y briodas, oblegid fod pob peth yn barod,' ac hefyd i ddyfod i 'gymod á Duw.' Gan fod trefn sefydledia; yngweithred- iadau meddwl dyn, meddylir gan lawery dylid cadw at yr un drefn o gyfarch. Kx esiampl : ni allwn gael ein hargyhoeddi o bechod heb i ni yn gyntaf gael golygiad- au ar Dduw a'i gyfraith ; ni allwn deimlo angen am Waredwr, na chanfod pwys yn yr iachawdwriaeth, heb gael ein hargy- hoeddi o bechod, a chael dirnadaeth pri- odöl am ei ddrwg natur. Oblegid hyny, tybir na ddylid dysgu yr un o'r egwydd- orion byn, heb i'r un blaenaf gael ei dde- all y;n dda; neu o'r hyn lleiaf, na ddylid pregethu yr efengyl heb ragymadroddi o'i blaen, trwy arddangos cyfiawn ofyniadau y gyfraith, ein cyflwr í'el pechaduriaid, a'r aromhosiblrwydd i ni gael ein cyfiawnhau trwy vVeithredoedd ein dwylaw ein hun- ain. Y mae yn ddiamau fod y cyfryw bethau j% bìiödol ac angenrheidiol; ond 2 Z