Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. 67 -ceir hanes am y cyfryw wedi ei ysgrifenu gan y diweddar Dr. Wm. Davies dan y penawd " Brjran a'i Amserau," mewn erthyglau dyddorol iawn, darllenant mor ddifyr a Dofel. Y waith gyntaf í fywgraftydd Mr. Bryan ei weled ydoedd tua'r flwyddyn 1840 neu 41—pan yr oedd ar daith bregethwrol trwy Ddeheudir Cymru. Dywed, "gwelwn ef yn awr gyüa'i gorfT mawr, a'i ben ardderchog a'i goesau bychain, a'i glos penglin, a'i Hessian Boots gyda ihassels sidan duon wrthynt yn cod i mewn ar foreu Sul i gapel Aberystwyth, ac yn esgyn i'r pwlpud, ac yno gyda'i lais crynedíg a thoddlyd yn ledio hytnn, yn tywalit gweddi ac yn darllen penod o'r Ysgrythyr Lan &c." Ac yn ol desgrifiad arall o hono, yn ychwanegol am y pen mawr, dywed ei fod yn wastad bron yn eí ranau uchel fel nenau tai yn nguledydd y Dwyraiu, y gwalltgwyu arianaidd yn deneu o amgylch y pen, ond yn lled brin tua'r gwastadedd hwnw ar y iop, y talcen mawr llydan ac uchel. y llygaid duon, bywiog, teryll, y wefus isaf yn rhyw daflu dipyn allan fel pe buasai ar haner poutio, y corff mawr cadarn, a lled cestog hefyd, y coesau meinion, byrion, wedi eu gwisgo mewn hosanau duon, ac heb y trousers bid siwr i guddio ei harddwch dim ond y clos pen glin hen ffasiwn iddo ef hyd diwedd ei oes." Ganwyd John Bryan yn Llaníyllin yn y flwyddyn 1770. Yno y treuliodd flynyddoedd cyntaf ei fÿwyd. Symudodd ei rieni í Croesoswallt i fyw, ond arosodd yn Llantyllin gydag ewythr iddo, masnachwr cyfrifol yn y He. Pan oedd y llanc tua pedair oed cymerodd yr ewythr caredig hwnw ef o dan ei ofal gyda'r bwriad o'i ddwyn i fyny a darparu ar ei gyfer. Ond bu farw yr ewythr pan oedd John tua 12 oed, a bu hyny yn gryn golled iddo. Ar ol hyn, gadawodd Llanfyliin am yr Amwythig. Symudodd oddiyno i Corwen, o Corwen i Gaer, lle y dychwelwyd ef at grefydd. Hyd yn hyn byŵyd gwyllt ac ofer, fu ei fywyd. Mae yn wir fod ei feddwl wedi ei anesmwythoyn fawr o dan bregeth o eiddo y Parch. John Jones, o Edeyrn, gweiuidog gyda'r Method- istiaid Calfinaidd, yn nghymydogaeth y Bala. Ond ymollyngodd drachefn i ganlyn cwmni drwg, ac i arferion annuwiol. Cyfnewidiol iawn ydoedd gyda galwedigaeth, ceir ef aramserau yn grocer, yn linen draper, ac yn clerlc cyfreithiwr. Profodd yr olaf yn niweidiol iddo. Byddai lawer oddicartref, yn aros mewn tafarnau, y temtasiynau yn llawer ac ysbryd hoenus y llanc yn tueddu at ysgafnder, ond parai hyn ofid iddo. Am amrai flynydd- oedd byddai "yn pechu ac eto yn poeni, yn poeni ac eto yn pechu." Byddai yn ddeiliad argyhoeddiad, a'i gydwybod yn con- demnio. Ond yr oedd y rhwystrau yn gryfion, ac yntau yn gyn- dyn i ildio. O'r diwedd rhedodd ei linyn i'r pen a phau tua deg