Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

238 Y Winllan. Rhif. 3. Henadur Hugh Hughes, U.H., Conwy. YMAE Henadur Hughes yn un o'r lleygwyr mwyaf cymeradwy a pharchusaf yn y Dalaeth Ogleddol. Y mae efe wedi cyraedd yr anrhydedd a'r safle uchel y mae efe ynddi drwy rym ei gymeriad crefyddol cryf. Y mae y geiriau " Drychafa di hi, a hithau a'th ddyrchafo dithau," wedi eu gwireddu yn mywyd Mr. Hughes. Dygwyd Mr. Hughes i fyny ar aelwyd grefyddol. Bu ei dad yn flaenor gofalus a ffyddlon am flynyddoedd lawer yn Eglwys y Tabernacl, Conwy. Ymunodd â'r achos yn ystod tymor gweinidogaeth y Parch. Robert Jones (A),' ar y Gylch- daith. Llanwodd bob swydd yn yr Ysgol Sul, yr Eglwys, a'r Gylchdaith sydd yn agored i leygwr. Mae yn awr yn Oruchwyliwr y Gylchdaith am yr ail dymor. Nis gwyddom am neb o argyhoeddiadau dyfnach na ffyddlonach iddynt. Bu am dj^mor yn ngwasanaeth y I. &* N. W. Railway Co., ond pan y gofynid iddo weithio ar y Sabboth, rhoddodd ei le i fyny, a gofalodd Rhagluniaeth y nef yn garedig am dano. Ar hyn o bryd y mae yn aelod o Bwyllgor y Capeli, ac yn Drys- orydd Pwyllgor Dirwestol y Dalaeth er 1894. Y mae yn Warchgeidwad y Tlodion er 1894, ac yn aelod o'r Cyngor Trefol er's blynyddoedd. Er y flwyddyn 1893 llanwa gyda anrhydedd y swydd o Henadur. Y flwyddyn ddiweddaf etholwyd ef yn Faer ei dref enedigol, ac ni lanwyd y swydd gyda mwv o urddas ac anrhydedd gan neb fu o'i flaen. Yn rhinwedd ei swydd fel Maer, meddai eisteddle ar y Fainc Ynadol, a gwna i'w gyd-ynadon deimlo ei bresenoldeb. Edmygir ef yn fawr gan ei Eglwys oherwydd ei fod yn gosod mwy o bwys ar y Cyfarfodydd Gweddio nag ar y Cyngor Trefol. Dyma'r ail dro i Henadur Hughes fod yn gynrych- iolydd i'r Gynadledd. Rhif. 4. Mr. Joseph Jones, U.H., Treffynnon. DISGYNA Mr. Jones o wehelyth Wesleyaidd selog a pharchus. Yr oedd ei rieni yn mhlith aelodau cyntaf Eglwys Pendref, Treffynnon, ac y mae efe ei hun yn un o'r Wesleyaid brwdfrydicaf a theyrngarol a geir yn agos ac yn mhell. Y mae yn frawd i Mr. Edwin Jones. U.H., masnachydd adnabyddus yn y brif- ddinas fel sylfaenydd a Managing Director y firms " Jones a Higgins," Peckham ; y "Bon Marche," Brixton, a "John Banner, & Co.," Hampstead. Yn gynar yn ei oes dechreuodd Mr. Jones gymeryd dyddordeb gyda'r achos yn Nghapel enwog Pendref, Treffynnon. Etholwyd ef bron i bob swydd agored i leygwr Wesleyaidd, yn mhlith y cyfryw y mae wedi bod yn Llywydd yr Ysgol Sabbothol, efe yn bresenol ydyw Arweinydd y canu, Ysgrifenydd y Trust, Blaenor-rhestr, Ysgrif- enydd y Genhadaeth Dramor, â Thrysorfa yr XXfed Ganrif. Y mae er's blyn- yddau yn Circuit Steward, ac fel y cyfryw y mae yn ffyddlawn i'r Cyfarfodydd Talaethol. Y mae Mr. Jones wedi parhau i gymeryd dyddordeb yn symudiadau cyhoeddus y dref. Yn 1889, etholwyd efyn aelod o'r Bwrdd Lleol hyd 1894, er hyny y mae efe vn aelod o'r Cyngor Dinesig, â'r flwyddyn hon etholwyd ef yn unfrydol yn Gaáeirydd y Cyngor, ac yn rhinwedd y swydd y mae yn aelod o Faingc Ynadol y Sir. Ÿ mae yn aelod o Frwdd'Ysgol Treffynnon, er's 1890, ac am dair blynedd efe fu yn gweithredu fel ei Is-gadeirydd. Cymor rhan flaenllaw yn ngweithrediadau Cyngor Eglwysi Rhyddion Dosbarth Treffynnon. Yr oedd efe yn mhlith yr etholedigion fel Cynrychiolydd i Gyfarfod Blynyddol Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion, a gynhaliwyd yn Nghaerdydd. Mewn gwleidyddiaeth y mae yn Rhyddtrydwr pybyr, ac efe ydyw Llywydd y Gymdeithas Rhyddfrydol. Ónd o bob anrhydedd ei etholiad i'r Gynadledd Wesleyaidd a brisia Mr. Jones yn uwchaf. Rhif 5. Mr. William Nathaniel Jones, Tirydail. GANWYD Mr. Jones yn y Dyffryn, Llandebie, Sir Caerfryddin, mab i Mr. Wm. Jones, yr hwn fu yn cario ymlaen fasnach eang fel Arwerthwr ac Estate Agent, ond a fu farw pan oedd ei fachgen ond tair blwydd oed. Am rai blynyddau bu Mr. Jones yn ngwasanaeth y Great Western Railway, ond pan tua 2iain oed fu ei haner brawd—yr hwn oedd wedi olynu ei dad yn y busnes farw, a chymerodd