Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINIaLAN. Ehif. 3.] MAWRTH, 1883. [Cv? XXXVI. DR. SAMUEL JOHNSON. UA dechreu y ganrif ddiweddaf yr oedd yn byw yn nhref enwog Lichfield fasnacliydd parchus o'r enw Michael Johnson, a'i briod hawddgar; ac ìddynt hwy y ganwyd, ar y 18fed o Fedi, 1709, fab, yr hwn enwyd ganddynt yn Samuel. Tr oedd Michael Johnson yn ddyn o sefyllfa barchus, ac o amgylchiadau lled gomfforddus ar y pryd, yn dipyn o ysgol- haig, yn ynad heddwch, ac yn llyfrwerthwr; tra yr oedd Mrs. Johnson yn ddynos o ddeall rhagorol, a duwiolfrydedd cywir; ac i'w fam yr oedd Samuel Johnson yn ddyledus am ei argraffiadau moesol dyfnaf, tra yr oedd efe yn etifeddu gwen- didau meddyliol a chorfforol ei dad. Pan eto ond plentyn, dangosodd Samuel Johnson arwyddion diamheuol o feddwl a thymer bywiog, amgyffrediad buan, a chof nodedig. Tmddengys i'r "Eing's Evil" ei fiino yn ei ddyddiau cyntaf, yr hyn a anffurfiodd ei wyneb, ac a ddallodd