Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

WINLLAN. Rhif. 10.] HYDEEF. 18S4. [Cyf. XXXVIL DR. ALEXANDER MURRAY. ÍNHAWDD fyddai enwi engraifft fwy nodedig a tharawiadol o ddyrchafiad i sefyllfa uchel ac anrhydeddus fel ysgolhaig ac ieithyddwr, na'r eiddo y gwr y niae ei ddarlun uwchben, yn en- wedig pan y cymerir i ystyriaeth iselder amgylchiadau ei deulu, ei afiechyd yntau, a'i einioes fer o wyth mlynedd ar hugain; Ganed Alexander Murray yn Nunningoff yn swydd Kirkend- bright, Scotland, yn 1785. Bugail tlawd oedd ei dad ; ac yr oedd yn yr oedran teg o 70 mlwydd pan anwyd Alexander; ond yr oedd efe yn hen wr iach a chalonog, a chafodd fyw i weled ei fab wedi cyrhaedd oedran gwr. Fel y rhan amlaf o'r Tsgotiaid gwerinol, yroedd efe wedi cael ychydig o addysg yn moi-eu ei oes ; a chan ei fod yn rhy dlawd i hyfforddio ys- gol i Alexander bach, efe a ymgymerodd a'i addjsgu i ddarllen ei hunaö. Nid oedd ganddo lyfrau at ei wasanaeth