Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN Rhif 2.] CHWEFROR, 1896. [Cyf. XLIX. EIN HORIEL. II.-MR. D. R. DAV1ES, F.A.Ph.S. (DELTA.) wyr y Winllan y darlun rhagorol hwn o Mr. Delta Davies, gydag ychydig nod- ion o hanes y gwrth- ddrych, yr ydym yn ystyried ein bod yn talu teyrnged haeddawl o barch i un sydd wedi bod jm gyfaill gwresog i'r Winllan o'i chych- wyniad hyd y dydd heddyw, un a ys grifenodd lawer iddi yn mlynyddoedd cyntaf ei yrfa, ac un sydd wedi ac yn bod yn leygwr blaenllaw, defnydd- iol a thra pharchus yn mysg Wesleyaid y Dê am ddegau o ftynyddoedd. Brodor o Pumpsaint, Plwyf Cano, Sir Gaerfyrddin, ydywDelta, a ganwyd efyn 1826; ond symudodd ei rieni i fyw i Nantyglo, Sir Fynwy, pan yr oedd efe yn bur ieuanc. Yn nosbarth Mr. Rees Aubrey brawd y diweddar Barch. Thomas Aubrey y dysgodd ddarllen Cymraeg. Daeth pan yn ieuanc iawn yn wrthddrych Rrgraffiadau crefyddol dyfnion; ac yr ydym yn cael ei fod wedi