Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T WINIalaAN, Rhif 12.] RHAGPYR, 1897, [Cyf. L. EIN HORIEL. XII.—MR. JOHN EDWARDS, ABERGELE. IAU mai dyddorol iawn gan ein dar- llenwyr fydd cael y darlun hwn o Mr John Edwards, Aber- gele, boneddwr sydd wedi bod yn hynod o ffyddlawn a defnyddiol gyda'n henwad yn Nghymru. Cafodd y darlun ei dynu ar gyfer y Winllan oddiar photo mawr gan Mr. Cecil Roberts, brawd ieuangaf Mr. J. Herbert Roberts, A.S. Yr ydym yn dra dyledus i'n cyfaill Mr. J. R. Ellis, Abergele, am rai o'r maaylion dydd- orol a ganlyn ynghylch bywyd Mr. Edwards.— Ganwyd ein gwrth- ddrych aryr 16eg o Ebrill 1816 yn Abergele; bu ei dad yn brif asiedydd yn nghastell y Gwrych, pan oedd y lle rhyfedd hwn yn cael ei adeiladu. Er mai ychydig a wyddis am ei rieni mae'n amlwg eu bod yn deulu parchus yn y dref, ac fod y bachgen wedi cael mag- wraeth dda, a rhagor o ysgol nag a roddid i'r rhan fwyaf o fechgyn y cyfnod hwnw. Cyrchai pan yn bur ieuanc i'r hen gapel llawr pridd, am yr hwn y sonia yn aml, ac yn fuan daeth yn hynod o selog gyda'r ysgol Sabbothol yn y lle.