Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 1. lonawr, 1848. Cyf. I. ANERCHIAD. Anwyl Gyfeillion Ieuainc,—Onid yw yn syndod meddwl am y nifer lluosog o lyfrau sydd yn awr yn y byd! Àc eto y mae llyfrau newyddion yn tarddu i fyny yn bar- haus, fel " llygaid y dydd." Yn sicr, "nid oes dyben ar wneuthur llyfrau lawer." Y maent yn dyfod allan yn ehwarterol, yn fisol, yn wythnosol, ac yn ddyddiol: rhai yn un plyg, rhai yn bedwar plyg, rhai yn wyth plyg, ereill yn ddeuddeg, ereill yn un-ar-bymtheg, ac ereill yn ddeu- ddeg plyg ar hugain. Ond y mae yr amrywiaeth mewn materion, ac mewn ffordd o ysgrifenu, lawer yn fwy llu- osog nag yw'r plygiadau a'r dulliau; ac y mae rhywbeth newydd yn cael ei gyhoeddi o hyd. Y mae pob llyfr, fel yr hedyn yn y ddaear, yn gwreiddio ac yn tyíü, gan gy- nyrchu a lluosogi eirywohyd, felpa amlaffyddo'r llyfrau, lluosocaf yn y byd yw'r cuwd cynyddol yn debyg o fod. Felly, yn ei dro, dyma lyfryn newydd yn cael ei gynyg eto ichwithau. Ei enw, fel y gwelwch, yw Y Winllan. Nid ydych eto yn gallu gwybod dim am dano, oblegid hollol newydd ydyw. Er hyny dichon fod ein hen gyfaill cymwynasgar yr Eurgrawn wedi gwasgaru y newydd ar adenydd yr awelon, er hysbysu i rai o honoch fod y fath beth a'r Winllan ar wneyd ei ymddanghosiad. Os felly, ynte, y mae rhai o honoch yn fwy parod i'w dderbyn a'i roesawu. Yr ydych, fe allai, yn barod i gydnabod fod yr enw yn brydferth ac yn ddewisol; a diamau eich bod yn dysgwyl i'r llyfryn ateb i'w enw. Wel, y mae genych hawl i ddysgwyl hyny; ac yr ydys yn hyderu na chewch eich siomi chwaith. Y mae y personau ag yr ymddiried- wyd gofal y Cyhoeddiad bychan hwn iddynt yn caru lles eu gwlad a'u cenedl. Y mae eu calonau yn llawn pryder wrth feddwl am Ieuenctid yr oes hon. Plant a phobl ieuainc yr oes hon a fyddant dadau a mamau, a phen-