Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 12. Rhag-fyr, 1848. Cyf. I. Y CYFERBYNIAD. Dichoh nas gall fod mwy o gyferbyniad nag sydd rhwng dyn ieuanc duwiol ac un aunuwiol. Y mae y dyn ieuanc drygionus yn un o'r gwithddrychau mwyaf tru- enus ar y ddaear. Y mae wedi ymrwymo yn ngwasan- aeth Satan a phechod—yn boenydiwrei deulu—yn warth mewu cymydogaeth—ac yu felldith cymdeithas gyffredin. Y mae yn dystrywio blodau ei einioes yn ei ymarferion annuwiol—yn byw yn ei bechodau—yn gaethwas i lygr- edd—ac â'i holl egui yn trysori iddo ei hun ddigofaint erbyn dydd digofaint. Y mae yn ymbleseru o ddifrif mewn pechod—yn ymogoneddu yn ei gywilydd—yn ym- dreulio yn ddiflino yn ngwasanaeth greulon Satan—ac yn cael ei dywys yn gaeth ganddo wrth ei ewyllys ar hyd y ffordd sydd yn arwain tua dystryw a cholledigaeth dra- gwyddol! Fy nghyfaill ieuanc! Os dyma dy gyfiwrdi, 0 pa mor ofnadwy druenus ydyw ! Y mae y saint yn gweddio drosot; y mae engyl gwawl yn tosturio wrthyt; y mae y Gwaredwr yn ŵylo uwch dy ben; a'r Jehofa tragwyddol ei hunan fel mewn trallod o iierwydd dy ddiwedd di! "Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoft'af yn marwolaeth yr annuwiol." Ddyn ieuanc ! meddwl fynyd ar ba dir yr wyt yn sefyll—tua pha wlad y mae dy wyneb—a'r trueni ofnadwy sydd yn dy aros, fel gelyn i Dduw, mewn byd arall! Ac 0 cymer gynghor i lwyr ymwrthod.â'th ffyrdd drygionus, a chysegru dy hunan yn aberth byw ar allor y Gẁr fu farw yn dy le. Y mae y gŵr ieuanc duwiol yn un o'r gwithddrychau harddaf a welir dan y nefoedd. Y mae ei gyfiwr yn dda rhyngddo a Duw—ei fuchedd yn unol â gair Duw—ac y mae ganddo hawl i'w holl addewidion ef. Y mae yn 12