Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 1. Ionawr, 1850. ' Cyf. III. Y PARCH. JABEZ BUNTING, D. D. Doctor Bunting ydyw y dyn mwyaf yn mhlith mawr- ion yr oes, a thrwy gydsyniad cyífredin, yr enwocaf o'r enwogion. Ganed ef yn swydd Derby, yn 1780. Sy- mudodd ei deulu i fyw i Manchester pan nad oedd ef ond plentyn. Cafodd ei ddysg yn yr Ysgol Rad Ramadegol yno, a thynodd sylw y diweddar Dr. Percival, yr hwn a'i gwnaeth yn gofiadur iddo. Gwnaeth addewidion mawr- ion iddo, os arhosai gydag ef: addawodd ei dynu, yn ddi- draul i'w deulu, trwy brif ysbyttai (hospitals) y deyrnas, a sicrhau iddo yu Manchester £700 yn y flwyddyn o in- come. Yr oedd Dr. Perciyal yn gweled ynddo y pryd hwnw ddefnydd enwogrwydd; ond yr oedd " yn rhaid i'r Arglwydd wrtho," ac nid oedd un alwedigaeth ond gwein- idogaeth y gair yn eistedd yn esmwyth ar ei gydwybod yntau. Galwyd ef allan i waith y weinidogaeth yr un flwyddyn a Dr. Newton, sef yn 1799; ac o hyny hyd yn bresenol nid oes Weinidog yr Efengyí, y mae yn debyg, trwy y byd mawr, wedi bod yn fwy o destyn enllib ac erledigaeth—dyrchafiad ac anrhydedd—na Dr. Bunting; ac eto addefa ei elynion gwaethaf, megys Everett & Co., fod ei gymeriad fel dyn, ac fel Cristion, uwchlaw amheu- aeth, ac na ellir ei gyhuddo o roddi barn bleidiol yn achos neb. Ei bechod mawr, ag sydd wedi bod yn gymaint testyn eiddigedd ac erledigaeth, yw ei dalentau mawrion, a'i ddylanwad gwerthfawr yn y Cyfundeb ag y mae yn fath addurn iddo. Y mae ei holl fywyd wedi ei dreulio i hwyluso, poblogi, a chadarnhau Wesleyaeth mewn amser o berygl, ac yn nghanol cynhwrf a therfysgiadau: rhoddes ei gyfarwydd- iadau doethion a'i ddylanwad nerthol i gadw y Corff o Weinidogion, Pregethwyr, Aelodau, a Chynulleidfaoedd, o