Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhiy. 6. Metscrm, ÌSSO. Cyf. III. Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL ISAAC. Y mae y weinidogaeth Wesleyaidd wedi bod yn hynod am amrywiaeth personol, yn gystal a doniau ei Gweinid- ogion. Rhai o feithriniad a gradd uchel, wedi eu ben- dithio â llawnder; ac ereill wedi bod yn adnabyddus â thylodi. Rhai oddiwrth yr aradr, ereill o weithdy y crefftwr—y mae ei Gweinidogion wedi eu cymeryd o bob gradd a sefyllfa o ddynion. Y mae rhai o honynt yn meddu hynodion neillduol iddynt eu hunain ar wahan oddiwrth eu dygiad i fyny; ac un o'r rhai hynotaf oedd Daniel Isaac. Daeth i'r weinidogaeth yn 1799; a bu farw yn 1834. Yr oedd rhywbeth yn nodedig yn ei ym- ddanghosiad personol—taldra canolig, gwyneb teneu mel- yn, aelodau esgyrnog, ac ysgwyddau culion. Yr oedd yn gwisgo yn hollol annhebyg i Bregethwr—yr oedd yn casâu pob peth oft'eiriadol. Yr oedd yn ffurf ei feddwl a'i wisg- iad yr un fath, o bethau'r byd, ag un o Weinidogion yr Annibynwyr a adwaenom, sef y Parch. James P. Jones,— het wellt ddû, clôs llwyd, hosanau gwỳnion neu leision, esgidiau cryfion â chareiau lledr yn eu cylymu, a chôt lwyd-goch, ac weithiau ymddanghosai yn y pulpud mewn gwasgod f'rith, a chadach brith am ei wddf. Yr oedd yn ymddangos ar y cyntaf i ddyn dyeithr, cyn ei ddeall a dyí'od i'w adnabod, yn ddyn sych a diserch; ond yn mhlith ei gyfeillion yr oedd yn hynod o bleserus, a gallai gadw teulu mewn natur dda trwy y nos. Nid oedd yn cenfigenu gwledd brenin, os cai ef bibell yn ei safn, cwpanaid o laeth o'i flaen, a thafell o fara wedi ei doastio ei hun, a'i falu i'r llaeth, ac â blaen ei gyllell yn pysgota y bara o'r llaeth: gallai ddyoddef craslyd goegni y gwrth- ysmocwyr, dan chwerthin yn galonog, y pryd hyn. Ar un o'r cyfryw achlysuron, daeth hen foneddiges i mewn