Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 9. Medi, 1850. Cyf. III. Y PARCH. WILLIAM BUNTING. Mab hynaf yr hybarch Dr. Jabez Bunting yw y gŵr hwn, i'r hwn er hyny y mae yn hollol annhebyg, yn gorfforol a meddyliol. Y mae yn dal, teneu, a gwael yr olwg— gwynebpryd siriol, pen ardderchog, talcen mawr, ac yn foel hyd ganol ei ben. Gallai un feddwl, wrth ei weled, ei fod yu tynu, trwy ddarfodedigaeth araf, "tua phant ybedd;" er hyny y mae wedi gallu cwblhau gwaith y weinidogaeth deithiol Wesleyaidd gydag ond ychydig o attaliad. Y mae wedi priodi boneddiges o gyfoeth mawr, ac felly yn gallu cadw ei gerbyd ei hun, yr hyn sydd yn ei gysgodi rhag gerwindeb y tywydd yn nghyfiawniad ei ddyledswyddau gweinidogaethol. Er fod Mr. Bunting yn gyfoethog iawn, nid yw yn uchel-falch, eithr yn "gydostyngedig â'r rhai iselradd." Y mae yn defnyddio ei gyfoeth fel Cristion, i gynorthwyo y tylawd a'r anghenus; ac y mae yn cyfranu wrth y can- noedd o bunnau ar unwaith i Gymdeithasau y Corff ac ereill. Os bydd iddo, ar ei deithiau i ac o'i gyhoeddiadau yn y wlad, ddyfod o hyd i un y gŵyr efe ei fod yn aelod o'r gymdeithas—un ag y bydd ei synwyr a'i dduwioldeb yn ei wneyd yn gydymaith dyddanol, efe a ettyl ei geffyl, ac a'i cymer i'w gerbyd, a rhydd ef i lawr wrth ddrws ei dŷ, er i hyny fod yn mhell o'i ffordd. Darfu iddo un- waith ddal ar y ffordd Gristion da, yr hwn a adwaenai, yn tynu yn flinedig tuag adref o Manchester. " Holo," meddai ef, "neidiwch yma, mi a'ch cymeraf adref; y mae arnaf fi eisiau gwybod sut yr ydych yn dyfod yn mlaen." " Yr wyf fi yn fy nillad gwaith, Syr," meddai y dyn. " Ydych," meddai Mr. Bunting, "yr oeddwn i yn gweled hyny cyn i mi ofyn i chwi; ac ynfy nillad gwaith yr wyf fiuau hefyd, a'r un Rhagluniaeth sydd wedi tori