Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 1. Ionawp, 18ÌÍ1. Cyf. IV. Y DIWEDDAR BARCH. RICHARD RBECE. Mr. Reece a fu yn y weinidogaeth reolaidd hwyaf o neb yn y Cyfundeb. Aeth yn Uwchrif yn y fiwyddyn 1846, wedi teithio yn ddirwystr ddeunaw mlynedd a deugain. Yr oedd yn hen ŵr tal, iachus yr olwg arno, hollol syth, a'i wallt cyn wyned ag eira; yr oedd yn araf yn ei sy- mudiad, ac yn ei gario ei hun yn urddasol, heb ddim chwyddiant; ac felly nid yn hawdd y gallesid teimlo digon o wroldeb i siared yn hyf âg ef. Yr oedd ganddo olwg uchel iawn ar anrhydedd ei swydd, ac ni chafwyd ynddo weithred nagair erioeda dueddai i'w dianrhydeddu. Dy- gwyddodd amgylchiad a deifl. oleu nodedig ar ei gymeriad unwaith yn Séssiwn Caerefrog. Torodd lleidr i dŷ Mr. Reece ryw nos Sul, pan yr oedd Mr. Reece yn pregethu yn y Capel. Yr oedd y ferch henaf braidd yn afiach, ac wedi aros yn y tŷ; a phan glywodd y lleidr i lawr yn y tŷ, cododd yn galonog i fyned i edrych beth oedd yno. Pan welodd y lleidr Miss Reece, efe a ffôdd, ond nid cyn iddi hi gael llawn olwg arno i'w adnabod. O ganlyniad hi oedd y tyst effeithiol er cael y troseddwr yn euog; ac yr oedd y Counsellor dros y troseddwr yn gwneyd ei oraf i'w siglo yn ei thystiolaeth. Y CounsMor oedd ryw Mr. Scarlett, yr hwn, wrth weled fod Miss Reece yn ofnus i roi ei thystiolaeth mewn lle mor gyhoeddus, a gymerai fan- tais i edrych yn ffyrnig yn ei gwyneb, gan ei chroesholi â holiadau anmhriodol, fel hyn: Counsellor.—" Yr ydych chwi yn ferch i Berson Wes- leyaidd, yr wyf yn credu." Tyst.—" Yr wyf yn ferch i Bregethwr Wesleyaidd, Syr." Counsellor.—"A oedd llawer o arian yn y tŷ trwy wybodaeth i chwi?"