Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhit?. 3. MawPth, 1851. Cyf. IV. Y PARCH. JAMES DIXON, D. D. Dr. Dixon a ddechreuodd ar waith y weinidogaeth yn 1812, a bu y deuddeg mlynedd cyntat'yn gweinidogaethu yn Nghymru a'r cyíflniau, sef Hereford, Kington, Aber- honddu, a Chaerwrangon; ac yna aeth yn Genadwr i Gibraltar, lle y bu un flwyddyn yn unig. Pan ddaeth yn ol, yr oedd y deyrnas hon yn teimlo yn ddwys yn mhwnc y Gaethfasnach, a theimlodd yntau y symudiad. Dygai y pwnc i mewn yn ei areithiau Cenadol. Yr oedd yr egwyddor oryddiddyn yntanio ei enaid, athynid ef allan mewn areithiau mor rymus nes yr oedd pawb yn gwefr- eiddio o dan ei resymau a'i athrylith. Ein hadnabyddiaeth gyntafohono a gymerodd le dan un o'r amgylchiadau hynod hyny. Yr oedd wedi cael ei alw i Gyfarfod Cenadol. Yr oedd ei enwogrwydd fel ar- eithydd wedi cyfodi dysgwyliad uchel iawn. Prifbwnc ei araeth oedd, "Fod Caethwasanaeth a Christionogaeth yn aunghydgordiol â'u gilydd." Yr oedd yn hollol gartref: cadwodd y tân i lawr tra y bu yn agoryd ei bwnc, wedi hyny efe a rwygodd yn ddibarch au-resymau y rhai a fynent ddal dyn yn gaeth, a'i werthu fel anifel. Yr oedd ei lais yn glir, ac fel cloch ya swnio trwy bob rhan o'r lle, a phawb yn gwrandaw mor dawel a'r bedd. Yr oeddynt wedi eu cylymu wrtho, a gallasai wneyd â'i gynulleidfa fawr fel y mynai. Yn awr gallasech feddwl, wrth ei ddarluniadau, eich bod yn clywed y fflangell yn clecian ar war y caethwas dû, a'r mynyd nesaf tybygech eich bod yn gweled eu rhwymau ynmyned yn rhyddion, a'rhwnoedd gynt yn gaeth, yn awr yn ymffrostio ei fod yntau yn ddyn, ac yn Gristion achubedig trwy waed y groes. Y mae Dr. Dixon yn wir boblogaidd—nid gan y bobl-