Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 5. Mai, 18S1. Cyf. IV. ROBERT YOUNG. Tua phymtheg mlynedd ar hugain ÿnol, mewn canlyn- iad i argyhoeddiad a weithiodd yn ei feddwl o dan breg- eth Dr. Newton, (oddiar Salm cxxvi. 5, 6,) efe a'i cynyg- iodd ei hun i'r gwaith Cenhadol, a danfonwyd ef i Jamaica, yn yr India Orllewinol, ac wedi hyny i Nova Scotia, lle y bu yn llafurio yn llwyddiannus am dair blynedd. Yr oedd bywyd Cenhadwr yn y lle hwnw, y pryd hyny, yn un caled iawn; a bu felly i Mr. Young. Bu mewnperygl am ei fywyd rai gweithiau. Yr oedd yn dychwelyd adref ar ol pregethu ry w noswaith, ac yr oedd ganddo i groesi ffrwd o afon, yr hon nas gellid ei chroesi ond pan y byddai yn drai, am fod y môr yn llenwi i fyny ar hyd-ddi. Yr oedd y niwl tew wedi ei rwystro i ganfod y rhyd, a de- chreuodd ei geffyl faglu ar draws creigiau ag oeddynt yn ngwely yr afon. Gwelodd ei fod wedi methu, a thybiodd mai y peth goraf oedd gadael i reddf yr anifel ei arwain, a gadawodd iddo chwilio am ei lwybr ei hun. Ymddang- hosai y ceffyl, yntau, ei fod wedi dyrysu, canysni symud- ai; ac yr oedd y llanw i'w glywed yn dyfod. Ar hyn clywai Mr. Young wagenwr, yr ochr draw, yn galw ei wedd i sefyll, a deallodd mai un wedi dyfod at y rhyd yn rhy ddiweddar ydoedd. Pan glywodd yr anifel y sŵn, efe a weryrodd, ac a branciodd ar draẃs y creigiau a'r cerig tuag ato yn ddiatreg, i achub ei fy wyd ei hun a'i farchogydd. Penodwyd Mr. Young wedi hyny i'r India, ond y mae yn awr er's blynyddau yn llafurio yn llwyddiannus yn. Lloegr. Y mae yn Bregethwr gwir boblogaidd—y mae diwygiad gydag ef yn mhob man lle yr elo. Y mae yn hollol