Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 1. Ionawr, I8S2. Cyf. V. Y PARCH. JOHN JANEWAY. Y dyn ieuanc nodedig hwn a anwyd o rieni crefyddol, mewn lle a elwid Lilley, yn swydd Hertford, yn y flwyddyn 1633. Danghosai, pan yn bur ieuanc, ei fod yn berchen meddwl gailuog annghyfl'redin. Dywedai rhai am dano pan yn ei febyd nas gallai fyw yn hir; ac ereill, nas gallai ef ddim marw nes iddo yn gyntaf ddyfod yn i'endithiol i'w gyd-ddynion; a darfu i'r naill blaid a'r lla.ll amcanu yn lled gywir yn eu daroganau am dano. Gwedi iddo eisioes ddyfod yn Ued hyddysg yn y Saes- onaeg, y Lladin, a'r Roeg, pau tuag unarddeg oed daeth yn awyddus iawn am ddysgu Hebraeg a rhifyddiaeth. Ac, mewn dwy flynedd, efe a ddaeth yu mlaeu mor ra- gorol, nes yr oedd yn syndod i ddynion o ddysg a gwy- bodaeth uchel. Pan nad oedd ond tairarddeg oed, cafodd ei holi gan benaethiaid Coleg Eton, yr hyn beth ni chy- merasai le yn yr Athrofa enwog hòno erioed o'r blaen: a thua'r un amser efe a ddanghosai ei fod yn dra hyddysg mewn gwyddoniaeth (mathematics'), ac yn fedrus iawu mewn cerddoriaeth. Gwedi bod am dri mis yn Rhyd- ychain, dan ofal Dr. Ward, gŵr o ddysgeidiaeth a chyr- aeddiadau uchel, efe a ddychwelodd i Eton, tra yr oedd ei gynydd yn eglur i bawb. Erbyn hyn yr oedd wedi dyfod yn alluog i wneuthur Almanac, ac i nodi amser y diffygion (eclipses) i fanylrwydd nodedig am lawer o flynyddau yn mlaen. Ymledai ei glod yn mhell ac yn agos fel dyn ieuanc dysgedig a galluog anarferol; a'r hyn oedd yn ei wneyd yn rhagorach fytk ydoedd ei fod mor ostyngedig a hunanymwadol yn y cyfan. Etholwyd ef i " King's College," Cambridge, pan nad oedd ond dwy- ar-bymtheg oed; ac efe a aeth yn fuan tuhwnt i'w gyd-