Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 2. Ghwcl'ror, 1852. Cyf. V. Y PARCH. JOHN JANEWAY. [Parhad tudal. 5.) Pan oddeutu ugain oed, gwnaed Mr. Janeway yn Gy- mrawd o'i Goleg; ac yn ddioedi efe a luniodd foddau newyddion i lesâu eneidiau a gogoneddu ei Waredwr. Un o ba rai ydoedd sefydliad cyfarfodydd crefyddol, y rhai a gedwid ganddo ef a'i gyfeillion Cristionogol i gyd- ymddyddan am bethau ysbrydol, ac i weddio Duw. Yn fuan wedi iddo gael ei wneuthur yn Gymrawd o'r Coleg, bu farw ei dad; a chan fod hanes yr hen ŵr parchedig hwn yn un tra dyddorol, nid anfuddiol tybygem í'yddai talfyriad o hono yn y lle hwn. Crybwyllasom yn ein rhifyn diweddaf am lwyddiant Mr. Janeway yn ny- chweliad ei deulu a llawer o'i berthynasau at Dduw. Yr oedd ei dad, y Parch. W. Janeway, Gweinidog Kilshall, yn ddyn o ymarweddiad moesol, ac yn cael ei gyfrif yn ddyn da; ond pan aeth i wynebu angau, llanwyd ei enaid âg ofnau a braw arswydus wrth feddwl gwynebu tragwyddoldeb tra heb deimlad o faddeuant pechodau, ac heb sicrwydd o gymod gyda Duw. Wedi iddo amlygu ei gyfyngder i'w fab, aeth John o'r neilldu i ymdrech gerbron Duw mewn gweddi ar ran ei farwol riant. Ac wedi iddo ddychwelyd at ei dad, a gofyn iddo pa fodd y teimlai, nid oedd un ateb i'w gael am amser. Yr oedd yr hen ŵr yn ŵylo yn chwerw-dost; ac felly y parhaodd am gryn ys- paid, yn analluog i siared: ond o'r diwedd efe a dorodd allan, gan lefain yn debyg i hyn, " 0, fy mab, yn awr efe a ddaeth, fe ddaeth, fe ddaeth! Bendigedig fyddo Duw, myfi a allaf farw yn awr! Y mae Ysbryd Duw yn cyd- dystio â'm hysbryd i fy mod yn blentyn iddo ef. Gallaf yn awr edrych ar Dduw fel fy Nhad anwyl, ac ar Grist fel