Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhit?. 4. SîbîilS, ISr.'-í. Cyf. V. Y PARCH. JOHN JANEWAY. {Parhad tudal, 43.) Yn ol ein haddewid yn y rhifyn o'r blaen, ceir yma yr olygf'a olaf ar John Janeway cyn ei fynediad i mewn i lawenydd ei Arglwydd, yn nghyda rhai o'i ymadroddion seraffaidd wrth nesu at diryr addewid. Dywed ei frawd, yr hwn a ysgrifenodd ei Fy wgrafhad yn y Saesonaeg, nas gallai ef fynegu yr ugeinfed ran o'r hyn a deilyngai gael ei ysgrifenu mewn llythyrenau o aur am dano. O ddiffyg lle, ni bydd i ni, mocld bynag, ond cofrestru yma ychydig o'i ymadroddion diweddaf. Pan ddaeth un i ymweled âg ef, a dywedyd wrtho ei fod yn gobeithio y byddai i'r Arglwydd ei gyfodi dra- chefn,—ei fod ef wedi gweled llawer uu gwanach nag ef yn cael ei adferu, ac yn byw lawer o flynyddoedd; efe a ofynodd iddo, "Ac a ydych chwi yn tybied eich bod yn fy moddio i wrth siared fel yna? Nac ydych, fy nghyf- aill; byddai yn annhraethol well genyf pe dywedech wrthyf,—'Nid ydych yn ddyn i'r byd yma; y mae yn anmhosibl i chwi bara yn hir; cyn y f'ory chwi a fyddwch yn nhragwyddoldeb.' Yr wyf yn dywedyd i chwi fod arnaf y fath hiraeth am fyned at Grist, fel y byddwn fodd- lon i gael fy nryllio yn ddarnau, neu i ddyoddef y dirdyn- iadau llymaf, ond i mi gael marw, a bod gyda Chriat! O mor anwyl yw yr lesu! Tyred, Arglwydd Iesu, tyred yn fuan! Angau, gwna dy waethaf! Collodd angau ei ar- swydolrwydd! Angau nid yw ddim! Nid yw angau, meddaf, (trwy ras,) yn ddim i mi! Gallaf farw mor hawdded a chau fy llygaid, neu droi fy mhen draw a chysgu! Yt wyf yn hiraethu am gael bod gyda Christ." Tra yr oedd ei fam a'i frodyr un diwrnod yn sefyll yn drist oddeutu ei wely, efe a'u cyfarchodd fel hyn:—" Yr