Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 5. Mai, 1SÍÌ2. Cyf. V. ADGOFION CREFYDDOL. Mr. Gol.— Yr oedd yn fwynhaol iawn genyf ddarllen yn yr Eurgrawn am Mawi'th diweddaf lythyr yr hen Gristion o Gaër- gybi, Y mae llythyrau o'r fath yn drysorau annghyfl'redin yn y dyddiau hyn; ac y maent yn llesâu enaid y darllenydd. Minau a dderbyniais ohebiaeth oddiwrth yr un henadur, yn nechre y flwyddyn hon. Yr wyf yn ei hanfon at eich gwasanaeth chwi i'r Winllan—oll, oddieittír ychydig linellau annyddorol i'r cyífred- in. Yr eiddoch, W. Rowlands. Caergybi, Ionawr 2,1852. Anwyl Gyfaill, a hen Feawd,—Derbyniais y llyfr a'ch llythyr, a da iawn oedd genyf gael gair bach oddi- wrthych : ond ar yr un pryd yr oedd yn ddrwggenyf eich bod mor gloff; ac eto yr wyf yn deall eich bod yn lled iach a chysurus. A diolch hefyd ein bod ninau fel teulu yn lled gyffelyb ; ac er llesged y babell ddaearol, nad felly yn gwbl yr un ysbrydol. Ac os dygwydd i chwi gyraedd y porthladd o'm blaen, gallwch fentro dywedyd wrth y dinasyddion nad yw yr hen lestro Aberffraw wedi myned yn wrecJc, er ei bod yn hwylio yn lled annyben, ond ar yr un pryd fod yr *' angor yn ddiogel ac yn sicr." Y mae y planhigyn egwan a blanwyd hanner can mlynedd yn ol yn rhyw fath o bren erbyn hyn; ond y diffyg ydyw, fod y ffrwyth gan lleied. Ac eto, wrth adgofìo fod llawer planhigyn a gydblanwyd wedi eu tori ymaith megys canghenau diffrwyth, byddaf yn rhyfeddu weithiau fod y fath foncyff crinllyd wedi ei oddef trwy gydol oes yn mhlith y ffigyswydd: a thra yn ystyried pethau o'r fath, ymlithrodd i'm sylw y llinellau a ganlyn :— Os goddefir y gydmhariaeth, Gwell yw imi, d'wedaf eilwaith, Dreulio f'oes o gywir galon Yn mhlanigfa mynydd Seion;