Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 1. loeiawr, 18 5 3. Cyf. VI. Y PARCH. RHYS PRICHARD, A. M. Yr oedd Mr. Prichard o ran eiberson yn ddyn gweddol fyr, tra lluniaidd, yn gadael eifarf i dyfuyn ol duílyrhen Frutaniaid. Yr oedd o wynebpryd parchedig a bywiog, yn enwedig yn y pulpud, a'i lais yn beraidd odiaeth. Yr unig gofiant rheolaidd am y Parch. Rhys Prichard y w yr un a elwir gan rai yn " Ysgerbwd Hanes Anthony Wood," yn mha un yr ydym yn cael i Mr. Prichard gael ei eni yn Llanymddyfri, yn Swydd Gaerfyrddin, yn neu yn nghylch y flwyddyn 1579, sef yr 21ain o deyrnasiad y Frenhines Elizabeth. Am ei henafiaid nid oes nemawr o hanes, heblaw fod lle i feddwl fod ei dad yn berchen cryn lawer o feddiannau yn y gymydogaeth, ac mai ei enw ydoedd Dafydd ab Richard ab Dafydd ab Rhys ab Dafydd, Ymddengys fod testyn y cofìant hwn yn hynaf o amryw blant, oblegid y mae tri a ddynodir yn frodyr iddo wedi eu henwifelcymyn-dderbynwyryneiewyllys ddiweddaf; ond y mae cryn ddyryswch gyda golwg ar ei enw ei hun, oblegid er yr argreffir ef yn gyffredin yn y Gymraeg Rhys, ac yn y Saesonaeg Rees Prichard, mewn dwy o dair ysgrif o'i eiddo ei hun, ag ydynt eto ar gael, ysgrifenir ef Rice, ac yn y drydedd Riceus. Y mae wedi ei enwi mewn hen ysgrifeniadau yn Rees Prichard, ac yn Rice ab Richard; ond yr oedd annghysondeb o'r fath yma yn beth tra chy- ffredin hyd yn lled ddiweddar. Mewn perthynas i ieuenctid Mr. Prichard, ni adroddir dim nodedig oddieithr un hanesyn, yr hwn, os oedd yn wir, a ellid ei ystyried fel anghraifft o ymddygiad grasol Duw tuag ato. Yn ol y crybwylliad hwn, cafodd gweith- red mewnmeddwdod ei goruwchlywodraethu ganRaglun-