Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 11. Tacliwctlcl, 1853. Cyf. VI. YR ARGLWYDDES JANE GREY. Hanodd y foneddiges ardderchog hon o'r teulu bren- inol, o du ei thad a'i mam. Cafodd ei haddysgu yn ofalus yn egwyddorion y grefydd Brotestanaidd ; ac yr oedd ei gwybodaeth a'i rhinweddau yn dyrchafu ei chy- meriad yn deilwng o fod yn siampl i'w chyfoedion. Ond nid oeddi gael aros yn hir yn y sefyllfa hon; canys syrth- iodd yn moreuddydd ei dyddiau yn aberth diniwaid i uchelgais y Dug o Northumberland, yr hwn a ddygodd yn mlaen briodas rhyngddi hi a'i fab, Arglwydd Gilford Dudley, ac a'i cododd i fyny i orsedd freiniol Lloegr, yn groes i'w hewyllys, ac yn wrthwynebol i hawliau Mari ac Elizabeth. Nid oedd ond o gylch deunaw mlwydd oed yr amser y priodwyd hi. Yr oedd ei gŵr hefyd yn bur ieuangc, ac felly mewn cyfnod anfahteisiol iawn i wrth- sefyll tueddiadau dynion llygredig, y rhai a ddylasent fod yn amddiffyn idd eu diniweidrwydd a'u hoedran plentyn- aidd, yn lle eu gwysio yn mlaen iberyglon. Heb law ei gwybodaeth a'i rhinweddau, yr oedd hi yn meddu duw- ioldeb dwfn, ac athrylith gref. Cafodd ei haddysgu yn yr un athrofa a Iorwerth y chweched ; ac yr oedd hi yn hyddysg iawn yn yr ieìthocdd Groeg a Lladin, ac am- rywiol dafodieithoedd. Treuliai ei hamser bron yn gwbl mewn dwys ymchwiliad am wybodaeth. Dygwyddodd unwaith i Roger Ascham, athraw i'r Arglwyddes Eliza- beth, fyned i ymweled â hi, pryd y cafodd hi yn ddiwyd gyda'r gorchwyl o ddarllen gweithiau yr enwog Plato ar anfarwoldeb yr enaid, tra yr oedd y rhan arall o'r teulu yn hela yn y parc ger llaw. Pan ofynodd iddi ei rhe- symau trosei hymddygiad, hi a'i hatebodd gan ddywedyd ei bod yn derbyn mwy o ddedwyddwch i'w meddwl yn nghwmni'r fath awdwr, nag oedd y lleill yn ei gael trwy eu llawenydd a'u difyrwch gwag. Ni pharhaodd ei theyrnasiad ond deg niwrnod, canys cyfododd y genedl